Home » Agor Canolfan Iaith newydd
Cymraeg News

Agor Canolfan Iaith newydd

‘Y Man a’r Lle’: Ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi
‘Y Man a’r Lle’: Ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi
‘Y Man a’r Lle’: Ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi

BYDD Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn agor Canolfan Gymraeg ‘Y Man a’r Lle’ yn swyddogol ar y 31ain o Hydref 2016.

Canolfan amlbwrpas yw ‘Y Man a’r Lle’ wedi ei hadeiladu ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi.

Adeiladwyd y ganolfan i fod yn ganolbwynt i weithgareddau addysgol, cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn nhref Aberteifi a’r cyffiniau. Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn bencadlys parhaol i sefydliadau Cymraeg yn y dref ac yn fan cyfarfod anffurfiol i’r gymuned ynghyd a myfyrwyr y coleg a disgyblion ysgol. Yn ogystal bydd y ganolfan bwrpasol hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr coleg dderbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau galwedigaethol mewn meysydd megis arlwyo a lletygarwch. Bwriad y coleg yw cynnal sesiynau hefyd i fusnesau lleol gael cyngor a chyfarwyddyd ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Derbyniodd Coleg Ceredigion grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen 2015-16 er mwyn datblygu’r ganolfan yn nhref Aberteifi. Mae’r Ganolfan yn un o ddeg o ganolfannau sydd wedi cael eu hariannu gan y Llywodraeth gyda’r nod o hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ledled Cymru. Mae’r canolfannau iaith newydd yn cael eu datblygu i wneud y Gymraeg yn rhan weledol o fywyd bob dydd.

Gwahoddwyd Cynghorwyr lleol, busnesau, myfyrwyr a staff i fynychu’r agoriad i ddysgu mwy am yr hyn mae’r ganolfan yn ei gynnig ac i sicrhau bod pobl lleol yn manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt ar gampws Coleg Ceredigion.

Author