MAE YMGYRCHWYR iaith wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ystyried cynyddu’r grant ar gyfer papur wythnosol Y Cymro er mwyn sicrhau ei barhad.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd perchennog Y Cymro, cwmni papurau newydd Tindle, eu bod yn bwriadu gwerthu’r papur erbyn diwedd mis Mehefin. Mae perygl y gallai’r papur ddod i ben os nad ydynt yn dod o hyd i brynwr credadwy.
Mewn llythyr at y Cyngor Llyfrau a Gweinidog y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn iddynt ystyried buddsoddi er mwyn i’r papur newydd barhau a datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
Yn y llythyr, dywedodd Carl Morris, llefarydd ar faterion cyfryngau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Fel y gwyddoch, fel iaith leiafrifedig, mae cyhoeddiadau Cymraeg yn dibynnu ar gefnogaeth arian gyhoeddus gan fod tueddiadau’r farchnad rydd mor niweidiol i’r iaith. Mae’r Cymro yn bapur o bwys hanesyddol eithriadol i’r Gymraeg gan iddo ddyddio yn ôl dros 150 o flynyddoedd. Yn ogystal, ac yn bwysicach, mae ei fodolaeth yn bwysig i ddefnydd, statws a gwelededd y Gymraeg heddiw: mae’n rhaid i’r iaith gael ei chyhoeddi mewn papurau newydd os yw hi i ffynnu. Gwyddom yn iawn fod darpariaeth ddigidol yn werthfawr iawn i’r Gymraeg, ond mae angen darpariaeth argraffedig yn ogystal, a hynny gan fwy nag un darparwr. Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar sawl ffynhonnell newyddion.
“Credwn fod achos cryf dros gynyddu’n sylweddol y gefnogaeth ariannol i’r Cymro fel bod modd diwygio a buddsoddi i ddatblygu’r papur a’i wefan ymhellach, gan gydweithio gydag eraill lle bo’n bosibl.”

Ychwanegodd Carl Morris: “Mae’n bwysig iawn i’r Llywodraeth sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg, yn lle ein bod yn gorfod dibynnu ar un neu ddau ddarparwr. Yn nhermau darlledu cenedlaethol, y BBC yw’r unig ddarparydd newyddion Cymraeg ac mae hynny’n peryglu democratiaeth. Mae angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes rhagor o ganoli yn digwydd.”
Dywedodd Sian Gwenllian, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg: “Mae Y Cymro wedi gwneud cyfraniad aruthrol am flynyddoedd lawer i fywyd Cymru.
“Mae angen sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ‘r cwmni i ddatblygu yn gyffredinol, o ystyried y cyfnod trawsnewidiol mae papurau newydd yn ei brofi ar hyn o bryd wrth i newyddiaduraeth symud o brint i ddigidol.
“Mae hi’n bwysig cael sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg ac felly rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig pob cefnogaeth posib i sicrhau fod gan Y Cymro dyfodol disglair o fewn y sector newyddiaduriaeth Gymraeg.”
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant cyhoeddi yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a nhw sy’n penderfynnu pa deitl sy’n cael faint o arian ac ar ba sail’.
30 Mehefin 2017 fod yr olaf i’w gyhoeddi am y tro