Home » Buddsoddi mewn arweinwyr y dyfodol
Cymraeg News

Buddsoddi mewn arweinwyr y dyfodol

Theatr Felinfach: Academi ar gyfer arweinwyr ifanc
Theatr Felinfach: Academi ar gyfer arweinwyr ifanc
Theatr Felinfach: Academi ar gyfer arweinwyr ifanc

MAE CERED, Menter Iaith Ceredigion a Theatr Felinfach yn sefydlu Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn sir Ceredigion er mwyn darparu cwrs dwys i oedolion ifanc rhwng 18-25 er mwyn creu arweinyddion ifanc yng nghymunedau’r sir.

Yn dilyn cais llwyddiannus drwy Cynnal y Cardi am gymorth Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, bydd y cwrs yn cychwyn fis Tachwedd 2016.

Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn cynnig cwrs arweinyddiaeth dwys gan roi’r cyfle i oedolion ifanc Cymraeg ei hiaith i feithrin sgiliau arweinyddiaeth o fewn y gymuned a’u cymdogaeth gyda’r bwriad o’u hysgogi i weithredu yn lleol er budd y gymuned, a thaclo heriau cymdogaethau’r dyfodol.

Bydd yr Academi yn gweithio ar ddwy wedd sef darparu cwrs dwys i’r myfyrwyr yn flynyddol ac yn darparu cyfleoedd dysgu achlysurol a fydd yn agored i unrhyw unigolion â diddordeb.

Dywedodd Lynsey Thomas, Rheolwr Cered: “Trwy ddilyn y cwrs bydd yr unigolion yn datblygu eu dealltwriaeth o hanfodion datblygu cymunedol a sgiliau arweinyddiaeth gan ddeall cydraddoldeb a’r deinamig o rym mewn cymdeithas a hynny mewn cyd-destun dwyieithog cymunedau a chymdogaethau Ceredigion. At hynny, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i roi eu gwybodaeth, sgiliau ac agweddau newydd ar waith ar ffurf prosiect lleol, gan adrodd ar hynny fel rhan o’r cwrs.

“Nod y prosiect yw buddsoddi mewn unigolion i fod yn hyderus, i adnabod potensial eu hunain a’u cymuned ac ysgwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol.”

Ychwanegodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach a’r Campws, “Ein gwaith ni trwy’r Academi hon yw annog ac arddangos arweinyddiaeth mewn cymunedau. Mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol ein cymdogaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn perchnogi ac yn wynebu’r her, ond i sicrhau hyn mae’n ofynnol i ni adeiladu gallu a hyfforddi ein pobl ifanc i gynllunio a chyflwyno mentrau cymunedol.”

Er bod dros 20 mlynedd ers y cwrs Arweinyddiaeth Gymunedol wreiddiol, mae ffrwyth y gwaith hwnnw’n parhau, gan fod y myfyrwyr gwreiddiol oll yn arweinyddion cymunedol yn eu hardaloedd erbyn hyn ac yn rhannu eu sgiliau gyda phobl ifanc nawr.

Fel rhywun a elwodd o gynllun tebyg ar ddechrau’r 1990au, dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion, “Mae yna fudiadau gwych eisoes yn gwneud gwaith ardderchog i hyfforddi sgiliau amrywiol i bobol ifanc yng Ngheredigion, a dwi’n meddwl am y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd yn benodol. Ond ar adegau, mae’n ddefnyddiol i gynnig cyfleoedd arbennig i arweinwyr y mudiadau hynny ac i eraill nad sy’n ymwneud ag unrhyw fudiad penodol, i ymgymryd ag hyfforddiant penodol a dwys i ddatblygu eu sgiliau arwain.

“Mae’n hanfodol ar gyfer cymunedau hyfyw gwledig Cymraeg, fod pobol ifanc yn cynnig persbectif newydd a ffres i arweiniad y cymunedau hynny – mewn gwahanol feysydd a diddordebau – boed yn wleidyddol, gelfyddydol, economaidd.”

online casinos UK

Rydym yn galw ar oedolion ifanc rhwng 18-25 mlwydd oed sy’n byw yng Ngheredigion i wneud cais i ddilyn y cwrs Arweinyddiaeth Gymunedol. Mae’r cwrs yn cynnig sesiynau hyfforddi rhwng Tachwedd 2016 a Mehefin 2017. Bydd y cwrs yn cychwyn gyda chyfnod preswyl ar 26-27 Tachwedd 2016 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ac yna 4-6 sesiwn dilynol ar draws yr 8 mis mewn lleoliadau ar draws y Sir. Bydd hefyd mentor personol ar gyfer pob myfyriwr a chyfle i sefydlu menter neu brosiect fel rhan o’r cwrs.

Author