Home » Canlyniad llwyddiannus ar gyfer Cylch Caron
Cymraeg News

Canlyniad llwyddiannus ar gyfer Cylch Caron

Screen Shot 2016-08-24 at 12.38.51YN DILYN proses dendro agored, mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill y contract ar gyfer cyflawni prosiect Cylch Caron. 

Dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, “Mae penodiad Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru fel y Partner Cyflawni ar gyfer Cylch Caron yn gam pwysig arall ymlaen yn natblygiad y ganolfan arloesol. Bydd Cylch Caron yn dod â iechyd, gofal cymdeithasol a thai ynghyd o dan yr un to. Yn unol â’r egwyddor o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi atal ac ymyrraeth gynnar wrth galon popeth y maent yn ei wneud, gan helpu pobl i aros yn iach a byw’n annibynnol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Rydym yn falch iawn o groesawu Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru fel y Partner Cyflawni ar gyfer Cylch Caron. Mae dyfarnu’r contract yn garreg filltir allweddol arall ym mhrosiect pwysig Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ble mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cyfleuster tai, gofal ac iechyd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer yr ardal wledig o amgylch Tregaron. Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru fydd yn gyfrifol am elfen dylunio ac adeiladu y prosiect.”

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae hwn yn gam allweddol ymlaen ym mhrosiect Cylch Caron ac yn newyddion rhagorol i gymuned Tregaron. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partner newydd, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, ar y datblygiad pwysig hwn.”

Roedd yn ofynnol i bartïon â diddordeb i gyflwyno cynnig tendro i Gyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fe wnaeth y Panel, a oedd yn cynnwys swyddogion o’r ddau gorff, werthuso’r cynnig yn erbyn tri cham sef Cymhwyster, Ansawdd a Masnach. Roedd pob un Gwerthuswr yn cael eu dyranu gyda cynigion i werthuso mewn perthynas â’u maes arbenigedd, gan sicrhau bod gyda’r tendrwr y gallu a’r sgiliau angenrheidiol i gyflenwi’r contract.

Dywedodd Siân Howells, Cyfarwyddwr Busnes Newydd ar gyfer Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, “Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn falch iawn o fod wedi ennill y contract ar gyfer darparu Prosiect Cylch Caron ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned a’r partneriaid sydd ynghlwm gyda’r prosiect, gan wneud y Cyfleuster Gofal Integredig yma yn realiti.”

Bydd y gwaith yn awr yn symud ymlaen ar y cynlluniau manwl ar gyfer prosiect Cylch Caron gan weithio’n agos gyda Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru ar gyfer cyflwyno’r achos busnes llawn i Lywodraeth Cymru.

Author