Home » Capel Pisga, Llandisilio
Cymraeg News

Capel Pisga, Llandisilio

screen-shot-2016-11-17-at-15-19-01FIS TACHWEDD yma mae Span Arts yn cyflwyno cyngerdd Adfent llawn awyrgylch yng nghapel hyfryd Pisga, Llandysilio. Ar ddydd Sul y 27 bydd Ensemble Cantorion John S. Davies yn perfformio rhaglen dymhorol o eiriau cerddoriaeth a chanhwyllau yn y cyfnod sy’n arwain at Ŵyl Llais A Cappella Arberth 2017.

Ffurfiwyd Cantorion John S. Davies ym 1978. Ensemble wyth llais yw hwn sy’n cynnwys cantorion proffesiynol, aelodau o gorau eglwysi cadeiriol a myfyrwyr cerdd wedi’u dewis gan John Davies, sefydlydd y côr, ei hun . Gan berfformio’n rheolaidd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi mae Cantorion John S. Davies wedi teithio gyda’r clasuron mawr a gweithiau newydd gwych – y mwyafrif yn rhai di-gyfeiliant – o Lundain i Rufain ac wedi perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru.

Mae John yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bu’n fyfyriwr. Yn ei swyddogaeth fel Sefydlydd a Chyfarwyddwr Celfyddydol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun (1970-2006) cafodd ei anrhydeddu â’r MBE ym 1997.Mae hefyd wedi derbyn nifer o wobrwyon eraill am ei waith ym myd cerddoriaeth yng Nghymru.

Mwynhewch brofiad i godi’r galon yng ngolau cannwyll gyda chantorion wedi’u dethol gan John mewn lleoliad hyfryd – yn berffaith ar gyfer cyfnod yr Ŵyl.

Mae tocynnau yn rhatach os ydych yn eu prynu ymlaen llaw – gellir eu cael gan Span Arts ar y wefan span-arts.org.uk neu o’r swyddfa docynnau ar 01834 869323.

Author