Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg News

Cerddwyr Cylch Teifi

Cerddwyr Cylch Teifi: Gyda Terwyn Tomos ar draeth Ceibwr
Cerddwyr Cylch Teifi: Gyda Terwyn Tomos ar draeth Ceibwr
Cerddwyr Cylch Teifi: Gyda Terwyn Tomos ar draeth Ceibwr

CAWSOM daith hyfryd ym mis Hydref i ddechrau ein tymor, gyda Terwyn Tomos yn arwain.

Roedd y tywydd yn berffaith a’r cwmni’n dda!

Gan gychwyn o faes parcio Canolfan Arddio Penrallt Ceibwr aethom ar lwybr i lawr i Draeth Ceibwr, lle cawsom ychydig o’i hanes a hanes Trewyddel a tharddiad yr enw Cymraeg a Saesneg. Dysgom hefyd am y creigiau ac un planhigyn prin sy’n tyfu yno. Lan wedyn ar lwybr yr arfordir i ben y creigiau ac wedyn i weld y fryngaer o’r Oes Haearn cyn dychwelyd i’r Ganolfan. Manteisiodd llawer ohonom ar groeso caffi’r Ganolfan i gael lluniaeth a chymdeithasu.

Fis Tachwedd 12fed byddwn yn Llangrannog gydag Ian ap Dewi i’n harwain. Cychwynnwn o faes parcio Cefncwrt, wrth fynedfa Gwersyll yr Urdd (SN327 546) (yn agos i God Post SA44 6AE) am 10.30yb. Awn ar daith gylch egnïol sydd ychydig yn fwy na dwy filltir ac yn cymryd dwy awr neu dipyn yn llai. Byddwn ar lwybrau ac ar borfa gyda hanner milltir ar ffordd gul. Awn ni lan trwy Wersyll yr Urdd i gyrraedd Llwybr yr Arfordir a’i ddilyn am sbel i ben y bryn cyn cerdded i lawr ar y lôn uwchben Fferm Llochtyn. Wedyn byddwn yn ymuno â’r llwybr sy’n rhedeg ar ochr y bryn uwchben y cwm cyn mynd i lawr i’r heol fach rhwng Pontgarreg a Llangrannog. Awn yn ôl arni am ryw hanner milltir i’r man cychwyn. Yr esgyniad trwy’r daith fydd rhyw 300 troedfedd a’r rhan fwyaf ohono ar ran weddol serth o Lwybr yr Arfordir. Bydd 3 sticil a bydd angen cymryd gofal rhag llithro ar y llwybr i lawr i’r heol. Wrth gerdded, gwelwn olygfeydd da o’r pentref a’r dyffryn, a chlywed hanes y chwareli, y pentref a Gwersyll yr Urdd. Ar ôl y daith, bydd dewis eang o luniaeth ar gael yn Llangrannog i’r rhai sy eisiau.

Ym mis Rhagfyr (10fed), byddwn mewn ardal gyfagos, sef Penmorfa a Phenbryn, gan adael maes parcio Penbryn (SN 295 521) (Cod post SA44 6QL) am 10.30yb. Ein harweinwyr fydd Celia Richardson a Nigel Blake.

Ar ôl y Nadolig, 14eg o Ionawr awn i ardal Carreg Wen a Llechryd dan arweiniad Dyfed a Siân Elis- Gruffydd.

Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson, 01239 654561, [email protected].

Dyddiadau’r Teithiau nesaf:

• 12 Tachwedd: Llangrannog. Gadael maes parcio Cefncwrt, wrth fynedfa Gwersyll yr Urdd (SN327 546) (ardal Cod post SA44 6AE) am 10.30yb. Arweinydd: Ian ap Dewi

• 10 Rhagfyr: Penbryn a Phenmorfa. Gadael maes parcio Penbryn (SN 295 521)

online casinos UK

• (Cod post SA44 6QL) am 10.30yb. Arweinwyr: Celia Richardson a Nigel Blake

• 14 Ionawr: Ardal Carreg Wen a Llechryd. Gadael maes parcio Capel y Bedyddwyr Cilfowyr (SN 220 421) (Cod post SA43 2PH) am 10.30yb. Arweinwyr: Dyfed a Siân Elis-Gruffydd

Author