BU CERDDWYR plwyf Pencarreg a Phlwyf Llanwenog yn cerdded heddiw i godi arian tuag at Sefydliad Aren Cymru.
Prif amcanion a gweithgareddau Sefydliad Aren Cymru yw codi arian elusennol a defnyddio’r arian hwnnw i helpu pobl sy’n dioddef o glefyd yr arennau yng Nghymru.
Mae’r sefydliad yn hyrwyddo, darparu a chynnal a chadw unedau dialysis mewn ysbytai, ysgolion a phrifysgolion meddygaeth.
Yn ogystal â hynny maent yn darparu offer neu gyfleusterau i gefnogi cleifion arennol a hyrwyddo a chyhoeddi ymchwil meddygol ar glefydau arennol a chlefydau sy’n gysylltiedig.
Codwyd tua £400 ym mhlwyf Pencarreg a dros £700 ym mhlwyf Llanwenog heddiw ar ddiwrnod braf delfrydol i gerdded.
Dyma’r chweched blynedd i ni gynnal y daith gerdded yng Nghwmann. Heddiw fe gerddom ar hyd y llwybr cyhoeddus newydd wrth ochr Ysgol Carreg Hirfaen i ardal New York o’r pentref, troi i’r chwith i gyfeiriad Tynrhos tuag at Benlan.
Gwelwyd golygfa odidog o Ddyffryn Teifi oddi yno yn ymestyn o dref Llanbed bob cam i Lanybydder.
Cerddom lawr wedyn i Ddeunant, pentref Parcyrhos i Gilgell, nôl heibio Ddeunant Hall a lan yr hewl fach i Ysgol Carreg Hirfaen unwaith eto.
Roedd yn hyfryd croesawu cerddwyr a gafodd drawsblaniad aren yn cymryd rhan ar y daith. Diolch i bawb a gefnogodd.
Add Comment