Home » Cered yn ymgyrchu yn Llambed
Cymraeg News

Cered yn ymgyrchu yn Llambed

Mared Rand Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ceredigion Undeb Amaethwyr Cymru, a’i chydweithwyr: Yn dathlu derbyn y dystysgrif Aur tu allan i’r swyddfa yng Ngheredigion
Mared Rand Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ceredigion Undeb Amaethwyr Cymru, a’i chydweithwyr: Yn dathlu derbyn y dystysgrif Aur tu allan i’r swyddfa yng Ngheredigion
Mared Rand Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ceredigion Undeb Amaethwyr Cymru, a’i chydweithwyr: Yn dathlu derbyn y dystysgrif Aur tu allan i’r swyddfa yng Ngheredigion

BU STAFF Cered, Menter Iaith Ceredigion, yn ymgyrchu yn ardal Llambed i ddathlu diwrnod arbennig Shwmae Sumae eleni.

Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan Fudiad Dathlu’r Gymraeg a’r nod yw bod pobl yn dechrau sgyrsiau yn Gymraeg a gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus gan ddangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu gallu.

Ar ôl sicrhau ymrwymiad gan dros hanner cant o fusnesau, grwpiau a mudiadau i Siarter Iaith Ceredigion yn ardal Llambed yn ystod y mid ddiwethaf, roedd diwrnod Shwmae Sumae yn gyfle i staff Cered ailymweld a’r busnesau hynny. Datblygwyd Siarter Iaith Ceredigion gan weithgor Dyfodol Dwyieithog ar ran Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu darparu ar draws Ceredigion ac mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Cered.

Roedd hi’n gyfle i staff Cered gyflwyno tystysgrifau’r Siarter a bathodynnau iaith ar waith, ynghyd ag annog busnesau’r dref i gychwyn sgwrs gyda ‘Shwmae?’

Dywedodd Mared Rand Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ceredigion Undeb Amaethwyr Cymru: “Rydym fel Undeb Amaethwyr Cymru yn falch iawn o dderbyn tystysgrif Aur ar gyfer y swyddfa yng Ngheredigion. Mae’n holl bwysig darparu gwasanaeth dwyieithog a hyrwyddo’r iaith Gymraeg i’n cwsmeriaid. Mae’r tystysgrif wedi cael lleoliad da a weladwy yn y derbynfa.”

Ers lansio’r Siarter, mae dros 330 o fusnesau a sefydliadau wedi ymrwymo ac wedi derbyn efydd, arian neu aur am wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Mae’r Siarter Iaith Ceredigion yn agored i bob mudiad, sefydliad, clwb neu fusnes gwasanaeth yn sir Ceredigion.

“Yr hyn sy’n gyffrous am y Siarter yw ei fod yn rhoi cyfle i’r busnes neu sefydliad i ystyried ei wasanaeth Cymraeg a dwyieithog ac os oes unrhyw beth ychwanegol y gellid eu newid i wasanaethu trigolion y sir.” Meddai Lynsey Thomas, Rheolwr Cered , “Mae bob amser yn her o fewn marchnad gystadleuol, ond mae’r iaith Gymraeg yn arf marchnata gwerthfawr i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sy’n gallu rhoi boddhad ac yn werth chweil mewn cymaint o ffyrdd.”

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae’r ymateb wedi bod yn wych yn Llambed gyda nifer o’r busnesau a’u cwsmeriaid yn dangos cefnogaeth i’r Gymraeg. Mae’r peth mwyaf syml, fel cyfarch yn y Gymraeg, yn rhywbeth y gall pawb yn y gymuned fod yn rhan ohoni – siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a siaradwyr di-gymraeg.”

Author