Home » Cyfweliad Cath Ayers
Cymraeg News

Cyfweliad Cath Ayers

screen-shot-2016-10-18-at-10-20-51YN Y DDRAMA boblogaidd Byw Celwydd, mae’r gynulleidfa yn cael gweld gwleidyddiaeth yn cael ei phortreadu a pobl yn twyllo ei hunain a pawb arall o gwmpas. Aeth yr Herald i’r set yn Nghaerdydd a chawsom sgwrs hyfryd efo Cath Ayers sydd yn portreadu’r newyddiadurwraig Angharad Wyn yn y ddrama.

Mae Angharad yn briod efo Owain, mab y Prif Weinidog, Merion Llywelyn, ac esboniodd bod hwn yn cymhlethu pethau yn y berthynas: “mae hynny’n cymhlethu pethau rhywfaint! Mae ychydig bach o densiwn yn amlwg rhwng Meirion a fi, achos dw i’n trio datgelu ffeithiau o hyd.”

Yn ystod y gyfres gyntaf, cawsom ddatgelu ei orffennol ac mae hwn wedi effeithio hi mewn ffordd ac wedi datblygu fel person, eglurodd Cath: “Mae’n amlwg yn y gyfres gyntaf, mi wnaethon ni ddatgelu ei gorffennol hi, roedd hi’n butain ac yn byw yn Llundain. Felly mi wnaeth hi rywbeth i gael be’ mae hi moyn. Mae hi’n gymeriad cryf, penderfynol a dw i’n llawn edmygedd o honni.”

Nid yw Cath yn berson gwleidydd ac nid oedd hi’n gwybod llawer am wleidyddiaeth cyn Byw Celwydd ond mae gyrfa Angharad fel newyddiadurwraig yn y ddrama roedd angen ei bod yn gwybod beth oedd yn digwydd fel dywedodd Cath: “Fel y newyddiadurwraig, roedd hi’n gwybod be oedd yn mynd ymlaen at bob plaid, oedd yn anodd ar adegau achos mae’n gallu fod yn gymhleth.” Eglurodd fel ei gwaith ymchwil ar gyfer ei chymeriad oherwydd mae stori wahanol ym mhob pennod: “Ar ran gwaith ymchwil, achos mae stori wahanol ar bob pennod, stori wleidyddol ym mhob pennod, ac felly dw i’n mynd ar y we a gweithio mas beth yw beth a phwy yw pwy, a pham bod pwy yn gwneud beth. Mae e’n gallu bod yn anodd ar adegau.”

Byddwn yn gweld Owain yn stryglo i dod i dermau efo’r newyddion o’r gyfres gyntaf ond sut fydd Angharad yn ymateb, dywedodd Cath: “mae hi hefyd yn trio gweithio trwyddi, a fydden nhw’n llwyddiannus erbyn y diwedd? Duw a ŵyr! Yn anffodus mae ‘na wastad rywbeth newydd yn cael ei daflu i’r pot, a fydde fe ddim yn ddrama heb hynny na fydde fe? Mae digon o ddrama, oes.”

Yn ystod yr gyfres gynta, gwelsom fod brwydr o hyd rhwng gyrfa a’i teulu ac eglurodd Cath sefyllfa rhwng Angharad a’i gwr: “Mae hi’n ofnadwy o uchelgeisiol, sy’n beth positif. Mae e’n sefyllfa anodd achos mae hi ac Owain wedi penderfynu dyma fel mae’r berthynas yn gweithio, mae e am fod gartre’ mwy, ac mae hi’n mynd i fod yn gweithio, ac mae hwnna’n cael ei herio yn yr ail gyfres hefyd, ac maen nhw’n gorfod ffeindio ffyrdd o weithio’n wahanol.”

Yn y gyfres, cafodd yr actorion i ffilmio yn siambr y Senedd ac esboniodd Cath pam oedd yn ffantastig i fod yno ac pham mae’n dod a ddyfnder i’r gyfres: “Mae e’n ychwanegu rhyw ddyfnder, mae e’n gwneud y gyfres yn weledol ffantastig, pan ti’n cerdded mewn drwy’r dderbynfa, a’r siambr. Mae lot o bobl yn mynd yn gynhyrfus iawn am ffilmio yna. Mae’n grêt i fod yna just i ti gael gweld, sut mae e’n gweithio, pa mor driw mae’r stori a sut mae’r senedd yn gweithio. Mae e’n rhoi statws i’r gyfres ein bod ni’n cael ffilmio yn yr union adeilad rydyn ni’n ei bortreadu.”

Roedd angen i’r adran dillad wneud newidiadau ar gyfer Cath yn ystod y gyfres oherwydd maent yn disgwyl babi ac bydd y gynulleidfa yn gweld ychydig o newid mewn gwisgoedd Angharad: “Mae e wedi bod bach yn dorcalonnus, yn y gyfres gyntaf ro’n i mewn dillad ffantastig. Dw i wedi gorfod mynd am olwg hollol wahanol yn y gyfres yma! Ond mae’r tîm gwisgoedd yn ffantastig i gadw ei steil hi. Gawsom ni gymaint o ymateb am ei gwisgoedd hi yn ystod y gyfres ddiwethaf, gobeithio bydd hi’n dal yn edrych yn neis, ond mwy flowy!”

I disgrifio Byw Celwydd, ddywedodd: “ Bydden ni’n disgrifio Byw Celwydd yn gyffrous, cyfredol a chymhleth. Hefyd… Mae e’n we gymhleth o wleidyddiaeth ar fywyd personol unigol. Mae e’n we cymhleth rhwng bywyd gwleidyddol a phersonol. Drama wleidyddol sy’n ymdrin a storiâu cyfredol i ni yng Nghymru, law yn llaw gyda hynny mae gyda ni ein bywydau personol cymhleth hefyd wedi gweu ynghyd i greu drama.”

Dywedodd am Byw Celwydd a sut mae’n canolbwyntio ar storiâu sy’n gyfredol i Gymru: “Mae dramâu gwleidyddol ar hyn o bryd, fel Borgen yn ffantastig, a dwyt ti ffili cymharu. Ond mae Byw Celwydd yn cadw fe’n Gymreig, a chanolbwyntio ar storiâu sy’n gyfredol i Gymru, a thrio’i gadw fe yn fwy lleol a chenedlaethol i ni.”

online casinos UK

Author