Home » Cyfweliad Herald: Alun Lenny
Cymraeg News

Cyfweliad Herald: Alun Lenny

Alun Lenny: ‘Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia’
Alun Lenny: ‘Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia’
Alun Lenny: ‘Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia’

CAWSOM sgwrs efo’r cynghorydd, Alun Lenny, am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal dementia, yr emynydd mawr William Williams a’i ddylanwad, ac am gapel Heol Dŵr, sydd wedi cau eu drysau.

Daeth Alun yn ymwybodol yn 2008, wrth ymweld â phobl mewn cartrefi preswyl, bod dim llawer o sylw yn cael ei roi i hawliau siaradwyr Cymraeg. Eglurodd y sefyllfa: “O ni yn mynd mewn i gartref a gweld pobol yn eistedd mewn cylch mawr gyda ‘Countdown’ neu ‘Channel 4 Racing’ ar y teledu er bod neb llawer yn gwylio. Doedd neb yn ystyried falle y byddai’r bobol yno yn hoffi gweld Prynhawn Da neu rhaglen debyg ar S4C, a roedd gymaint o sŵn ‘o chi’n ffili clywed eich hunan yn siarad gyda’r person. O ni’n meddwl bod hyn yn gwadu Hawliau Dynol pobol o dan deddf 1991 y Cenhedlwyd Unedig sydd yn dweud bod rhaid i bobol gael gofal mewn cartref preswyl trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.”

Cafodd y mater ei godi mewn cyfarfod o Undeb yr Annibynwyr, ac ar ôl hynny aeth Alun a’r Parchg Beti Wyn James i siarad efo’r gweinidog roedd yn gyfrifol am ofal cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Gwenda Thomas. Yn y cyfarfod, fe wnaeth Gwenda gydymdeimlo efo’r sefyllfa, gan ddweud bod pwyllgor wedi ei sefydlu i edrych mewn i hyn.

Dros gyfnod o rai blynyddoedd, fe wnaeth y llywodraeth lunio strategaeth ‘Mwy Na Geiriau’ sydd nawr wedi dod lawr i lefel y Cyngor Sir. Dywedodd Alun bod y Cyngor Sir yn gweithredu’r strategaeth trwy geisio gwneud yn siŵr bod un aelod o staff ar pob shifft yn siarad Cymraeg. Eglurodd y gall hi fod yn anodd annog pobol i ddysgu Cymraeg ond bod y strategaeth yn awgrymu ystyried penodi staff dwyieithog lle mae angen hynny.

Wrth siarad am wasanaethau sydd yn cefnogi pobol sydd yn dioddef o dementia, fe wnaeth e ganmol y gwaith gwirfoddol: ”Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia yn yr gorffennol ond ma pethau yn newid oherwydd strategaeth ‘Mwy Na Geiriau.’”

Mewn dementia, mae pobol yn tueddi i anghofo beth ma nhw wedi dysgu olaf. Mae hynny’n cynnwys iaith. Gall pobol sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf golli’r gallu i siarad Saesneg wrth i’r salwch fynd yn waeth : “Mae hynny’n reswm clinigol, meddygol pam bod angen gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn iechyd a gofal.”

Adroddodd stori am gynghorydd aeth i weld perthynas mewn cartref yn Lloegr, lle bu’r dyn yn byw ers blynyddoedd lawer. Nid oedd ei deulu yn gallu siarad Cymraeg, ac yn dweud ei fod wedi colli’r gallu i siarad. Pan aeth y cynghorydd i’w weld a siarad Cymraeg â fe, fe wnaeth ateb yn syth yn yr iaith honno, gan synnu pawb.

Mae canlyniad llwyddiannus yr ymgyrch i gael gofal yn Gymraeg i bobol fel hyn yn dangos bod rôl bwysig gan y capeli i’w chwarae: “Dyma’r math o beth ddylen ni fel Cristnogion ei wneud. Os ‘y ni’n gweld bod cam yn cael ei wneud, neu bod angen mawr, dyle ni ddechrau ymgyrchoedd fel hyn a neud rhywbeth amdano fe. Mae mwy i grefydd na mynd i’r capel ar fore dydd Sul.”

Yn ddiwethar, fe wnaeth Capel Heol Dŵr gau ei ddrysau am y tro olaf. Gofynnais iddo sut effaith gafodd ar y dre a’r gymuned. Dywedodd nad oedd wedi cael fawr o effaith ar y gymuned Cristnogol gan fod yr achos wedi bod yn mynd i lawr ers blynyddoedd, ond bod hi’n drist iawn i’r dyrnaid oedd ar ôl yno.

Eglurodd y cylch dieflig sy’n arwain ar gau capel. Mae’n costi’n ddrud i gadw adeiladau mawr, gyda llai a llai yn mynd yno: “Ma’ sawl capel yn penderfynu os yw gweinidog yn cwpla: ‘o gew ni ddim weinidog nawr achos mae’n costi gormod i gadw’r adeilad’ – a dyna ddechrau’r diwedd. Mae’r aelodaeth yn mynd lawr yn gynt heb weinidog a’r gost yn syrthio ar llai o bobol. Yn y pendraw, mae’r lle yn cau.”

online casinos UK

Mae natur cymdeithas yn newid ac mae Alun yn meddwl mae’n rhaid i ni dderbyn hynny: “Ma’ pethe eraill i dynnu ei sylw ar fore Sul – rygbi neu nofio gan y plant, siopa ac yn y blaen ,neu aros yn y gwely!” Ma patrwm crefydd wedi newid: “Dyw pobol ddim yn hoffi eistedd lawr a gwrando ar rhywun, fel pregethwr, yn dweud wrthynt beth i wneud, heb yr hawl i ateb yn ôl. Yn yr oes ddigidol interactive ma’ pawb yn disgwyl ateb yn ôl.”

Dywedodd am prosiect newydd Undeb yr Annibynwyr – Y Ffordd – lle mae fideo yn cael ei ryddhau pob tri mis ar wahanol themâu crefyddol, gan annog pobol i wylio’r fideo a’i thrafod.

Siaradom am un o arwyr Cristnogol Cymru, sydd a’i emynau’n dal yn berthnasol i Gymru heddiw – William Williams, Pantycelyn. Mae William Williams o statws rhyngwladol. Cyfansoddodd dros fil o emynau, gyda nifer yn dal i gael eu ganu mewn capeli bob dydd Sul. Cyfieithiad o un o emynau Williams, gan Peter Williams o Gaerfyrddin, yw’r enwog “Bread of Heaven” sydd i’w glywed mewn gemau rygbi.

Dywedodd Alun bod gwaith William Williams yn rhan o hunaniaeth Cymru: “Ma emynau Williams yn rhan o’r psyche Cymraeg mewn gwirionedd, dim jyst i bobol sydd yn mynd i gapel neu eglwys. Pantycelyn oedd llais y Diwygiad Efengylaidd mawr newidiodd holl natur cymdeithas Cymru yn y 18fed ganrif, ar ddechrau’r cyfnod arweiniodd at godi’r capeli mawr oedd yn orlawn.”

“Yn 2017, bydd hi’n 300 ers geni William Williams – cyfle da i bobol a phlant Cymru ddysgu mwy amdano achos roedd e’n ganolog i’r hyn ffurfiodd y Gymru gyfoes.” Mae teulu Williams yn dal i fyw yn ffermdy Pantycelyn ar bwys Llanymddyfri, ac yn rhoi croeso mawr i unrhyw un sydd am alw i weld cartref un o arwyr mwyaf Cymru.

Author