Home » Cyngor Sir Ceredigion yn ôl ar y brig ar gyfer ailgylchu a charbon
Cymraeg News

Cyngor Sir Ceredigion yn ôl ar y brig ar gyfer ailgylchu a charbon

screen-shot-2016-09-12-at-12-16-43YN YSTOD 2015/2016 ailgylchodd Ceredigion fwy o wastraff nag erioed o’r blaen. 

58% oedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer y 12 mis hyd ddiwedd mis Mawrth 2016.

Llwyddodd Cymru gyfan i ailgylchu 60%, ond Ceredigion a ddaeth i’r brig gyda ffigur gwych o 68% (2% yn unig o dan darged 2025).

Esboniodd Huw Morgan, Cyfarwyddwr Strategol y Cymunedau Cynaliadwy fod yna nifer o resymau dros berfformiad mor wych.

Un ohonynt yw parodrwydd y trigolion i gymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu y mae’r Cyngor Sir yn ei ddarparu. Mae Ceredigion yn darparu sachau plastig clir ar gyfer ailgylchu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau. “Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n boblogaidd gan y trigolion. Mae ein data’n awgrymu bod 98% o’r tai sydd yng Ngheredigion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu o leiaf rhan o’r amser, sy’n dipyn o gamp” meddai..

Rheswm arall sydd wedi helpu Ceredigion wneud hyn yw’r newid yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwastraff gweddillol (y sachau duon) ar ôl eu casglu o dai pobol. Yn y gorffennol roedd y gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at safleoedd tirlenwi. Yn ddiweddar mae Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at orsaf bŵer yn Sweden. Yn yr orsaf bŵer, mae’r gwastraff gweddillol yn cael ei losgi er mwyn cynhyrchu gwres a thrydan. Mae’r lludw sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil y broses yn cael ei ailgylchu ac mae hynny wedi ychwanegu at berfformiad ailgylchu Ceredigion. Nid oes nwyon gwenwynig yn cael eu rhyddhau i’r awyr yn y broses yma, ac mae’r orsaf bŵer yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop gyfan; mae delio â’r gwastraff na ellir ei ailgylchu trwy’r dull yma’n well i’r amgylchedd na thirlenwi.

Mae’r Cyngor hyd yn oed yn ailgylchu’r ysgubiadau y mae’n eu casglu yn ymyl y ffordd ac mae hynny wedi gwella perfformiad Cyngor Sir Ceredigion lle mae ailgylchu yn y cwestiwn yn ddirfawr yn ystod 2015/2016.

Nid yn unig mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni’n dda i’r Sir, mae hefyd yn llesol i’r blaned gyfan. Mae ailgylchu’n lleihau allyriadau’r nwyon tŷ gwydr oherwydd mae’n golygu nad yw’r gwastraff yn pydru mewn safleoedd tirlenwi nac yn cael ei losgi mewn llosgwr – mae hefyd yn lleihau’r angen i gloddio am y deunyddiau crai o grombil y ddaear a’r holl ynni sydd ei angen i wneud hynny. Cyhoeddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cyrraedd y brig yn y Mynegai Ailgylchu Carbon blynyddol. Mae tabl y cynghrair, sy’n cael ei baratoi gan gwmni Ymchwil ac Ymgynghori Eunomia, yn cyfrifo cyfanswm yr allyriannau carbon deuocsid sydd wedi eu harbed o ganlyniad i ymdrechion y trigolion lleol i ailgylchu.

Arbedodd gwasanaeth ailgylchu’r cyngor 104kg o Garbon Deuocsid i bob person yn yr ardal, a dyma’r gwasanaeth mwyaf effeithiol o ran lleihau allyriadau carbon trwy Gymru gyfan – er ei bod yn gystadleuaeth glos iawn ac enillwyr llynedd, Powys, yn dynn ar ein sodlau, gydag 1kg y person yn llai. Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod portffolio ar gyfer Gwastraff: “Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r trigolion lleol wedi ein helpu ni gyflawni, ac mae’n wych bod ar y brig ar gyfer ailgylchu a’r Mynegai Carbon. Mae’r canlyniad yn dangos bod ymroddiad y trigolion ddidoli eu sbwriel yn talu ei ffordd o ran arbed carbon”.

Ond nid yw’r Cyngor yn gorffwys ar ei fri. Esboniodd Huw Morgan: “Roedd perfformiad llynedd yn wych ond nid da lle gellir gwell. Fel Cyngor bach gwledig, rydym weithiau yn ei chael hi’n anodd darparu’r gwasanaethau y mae’r trigolion yn eu disgwyl ac yn eu haeddu. Rydym yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth gwastraff ac i wneud hynny bydd angen ymdrech ar ran y staff, y contractwyr a’r trigolion fel ei gilydd. Bydd angen inni fod yn fwy hyblyg yn y dyfodol er mwyn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gennym. Rydym yn chwilio am gyfleoedd newydd i ailgylchu mwy ac i leihau’r costau ar bob adeg. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n wedi ein helpu ni gyrraedd y brig ac i barhau â’r gwaith da fel y bydd modd i ni ailgylchu mwy byth y flwyddyn yma”.

online casinos UK

Author