Home » Dathlu Deng Mlynedd o’r Plygain yn Llanbed
Cymraeg News

Dathlu Deng Mlynedd o’r Plygain yn Llanbed

screen-shot-2017-01-05-at-11-41-37NOS LUN, 5 Rhagfyr 2016, cynhaliwyd degfed Plygain Llanbed yng Nghapel Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dywed y Dr Rhiannon Ifans “Mae’r blynyddoedd wedi hedfan, a bu llawer iawn o newidiadau ar gampws Llambed dros y blynyddoedd hyn. Ond mae’r plygain wedi dal ei dir, ac roedd Capel y Coleg yn orlawn eto eleni ar gyfer y gwasanaeth hyfryd hwn.”

Arweiniwyd darn o’r Hwyrol Weddi gan y Parchedig Bill Fillery, a’r organyddes oedd Mrs Glynis Morris. Cymerwyd rhan gan Barti Plygain Coleg Llanbed, Parti’r Penrhyn, Twynog Davies, Triawd Pen-y-graig, Parti Cymorth Cristnogol, Parti Llandeilo, Rhiannon Ifans a Trefor Pugh.

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol ydy’r Plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd i flaen yr eglwys i ganu carolau’r Plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach yn amrywio. Mae’r Plygain yn dyddio nôl i’r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif gydag elfennau llawer hŷn na hynny.

Wedi i’r dynion ganu ‘Carol y Swper’, croesawyd pawb i’r Hedyn Mwstard i fwynhau pwnsh cynnes a meins peis gwych. Diolch i’r cwmni yno am eu hynawsedd.

Trefnwyd y noson gan Dr Rhiannon Ifans o Gyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio. Ychwanega Dr Rhiannon Ifans “Yr oedd yn hyfryd gweld Llywydd y Brifysgol, Dr R. Brinley Jones a Mrs Stephanie Jones, yn bresennol yn y gwasanaeth plygain yn ôl eu harfer.”

Author