Gwahoddir trigolion Llanymddyfri i ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus i drafod syniadau a gofyn cwestiynau am ddarpariaeth gofal iechyd yn ysbyty’r dref a’r Uned Mân Anafiadau.
Mae Ysbyty Llanymddyfri o bwysigrwydd strategol i’r bwrdd iechyd gan ei fod yn darparu gwasanaethau pwysig iawn i’r boblogaeth leol, ac rydym am ddyfodol disglair i’r ysbyty fel y mynegir yn ein strategaeth iechyd a gofal.
Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 3 pm-6pm yng Ngwesty’r Castell yn Llanymddyfri ddydd Gwener 14 Chwefror yn rhoi cyfle i drigolion lleol ofyn unrhyw gwestiynau a thrafod ein gwasanaethau.
Add Comment