Home » Gwella sgiliau byd gwaith pobl ifanc
Cymraeg News

Gwella sgiliau byd gwaith pobl ifanc

screen-shot-2016-11-16-at-09-19-29BYDD Menter Gorllewin Sir Gâr yn datblygu cynllun ‘Profi’ er mwyn gwella sgiliau byd gwaith 750 o bobl ifanc yn Ne Ceredigion a Gorllewin Sir Gâr dros 3 blynedd diolch i grant o £203,412 Arian Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr.

Dywedodd Meinir Evans Cydlynydd y cynllun ‘bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn ein galluogi i adeiladu ar y cynllun peilot er mwyn cefnogi 750 o bobl ifanc i wella ar ei sgiliau byd gwaith.’

Bydd y cynllun yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith i bobl ifanc 16- 18 oed gyda mudiadau ar draws ardaloedd gorllewin Sir Gâr a De Ceredigion. Gan gydweithio yn agos â’r trydedd sector a’r sectorau preifat a chyhoeddus, byddant yn trefnu cyfleoedd i godi dyheadau, cyflawniad a hyder i gynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Yn ogystal bydd y cynllun yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, gyda’r nod hefyd o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’r cynllun yn un o 9 o brosiectau ar draws Cymru sy’n rhannu £2,907,263 fel rhan o’r rownd ddiweddaraf o arian Pawb a’i Le.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi dyheadau pobl sydd am wella bywyd yn eu cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn gyfrifol am ddosbarthu 40% o’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ac yn buddsoddi dros £650 miliwn bob blwyddyn mewn prosiectau, rhai bach a rhai mawr, ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac elusennol.

Author