Home » Mae marwolaeth yng Nghwm Deri
Cymraeg News

Mae marwolaeth yng Nghwm Deri

Jonathan Nefydd: Colin Evans
Jonathan Nefydd: Colin Evans
Jonathan Nefydd: Colin Evans

YM MHENODAU Pobol Y Cwm yr wythnos nesaf, bydd mwy o ddrama ym mhentref Cwmderi.

Aeth yr Herald i Gaerdydd i gwrdd ag actorion yr opera sebon a gweld beth sydd yn dod lan i’r cymeriadau yn ystod yr Hydref.

Siaradom efo Aled Llyr Thomas a Dyfan Rees sy’n portreadu Tyler a Iolo. Pan gofynnwyd am pa ddrama sydd o’u blaenau, dywedon nhw ddim llawer i gadw’r gynulleidfa i wylio’r sioe. Eglurodd Dyfan nad oedd yn gwybod ar hyn o bryd: “Dydyn ni ddim yn gwybod tan ar ôl y bennod hyn… Ydyn ni yn mynd i briodi neu ydyn ni ddim yn mynd i priodi?” ac i ychwanegi at y crog dywedodd Aled Llyr Thomas: “Pwy sy’n gwybod beth sydd yn mynd i digwydd?”

Ma Iolo yn gymeriad mae Dyfan yn anelu i fod oherwydd ei natur : “I fi, rwyf wastad wedi gweld y cymeriad bydde fi hoffi fod yn bersonol achos ma Iolo mor neis yn ei ben ,falle so fe’n dod ar draws, ma fe wastad yn gweld y gorau yn pawb…ond ar yr ochor arall ma’r OCD ar salwch meddwl gyda fe, i unrhyw berson sydd yn delio gyda salwch meddwl neu person sydd yn mynd mas gyda person gyda salwch meddwl, ma fe’n anodd achos dim dewis nhw yw e…ma fe’n cymryd rhywun neu berthynas sydd yn gweithio i helpu.”

Eglurodd Aled Llyr Thomas sut y mae yn portreadu Tyler ac yn dod a ychydig o’i fywyd go iawn i’r cymeriad trwy ddweud: “Rwyf yn trial portreadu Tyler yn agos fel dw i yn bywyd go iawn, fi’n credu maen ‘Happy-go-lucky kind of guy’, maen joio byw a so fe’n cymryd bywyd yn rhy serious. Ma fe’n trial cael y gorau mas o bawb, ma fe’n trial fod yn hapus yn mhob sefyllfa a trial creu perthynas gyda pawb yn y pentref.”

Wrth i Iolo a Tyler baratoi am ei priodas, disgrifiodd Dyfan sut mae ei partneriaeth yn gweithio ar y sgrin ac o bant y sgrin, dywedodd Dyfan: “Ni’n dod ymlaen yn dda ar sgrin ac off y sgrin fyd, ni’n ffrindiau agos achos mae’r ddau ohonyn ni yn chwareus, ni di gallu dod a phethe allan ar y sgrin er bod ni’n cwympo mas ar sgrin!”

Mae’r berthynas rhwng Iolo a Tyler yn gymhleth iawn eglurodd Dyfan trwy ddweud: “Does dim ots pa mor wael yw Iolo i ddelio efo, achos maen gymeriad anodd i delio gyda, Tyler yw’r unig un sydd yn gallu delio gyda fe…Mae un person fel ma pobol yn dweud ‘he’s your rock’, a ma fe’n neis i ymddiried yn rhywun mewn perthynas, so er bod llawer o broblemau hyn ma da ti yr un person sydd yn gallu cymerwyd hwn arno achos ei fod yn caru.” dywedodd Aled mae’r ddau gymeriad yn deall ei gilydd ac os oes problem gyda Tyler ma Iolo yn gwybod sut i ddelio gyda fe.

Ym Mhobol Y Cwm, mae’r gynulleidfa wedi gweld Iolo yn dioddef gyda OCD, a gwnaeth Dyfan efo ymchwilwyr y sioe gwrdd a phobol oedd yn delio efo salwch meddwl. Maent wedi newid ei persbectif ar y testun, eglurodd hwn trwy ddweud: “Roedd criw ffantastig lan lofft gyda ni yn Mhobol Y Cwm, ymchwilwyr gyda ni a gwnes i gyfarfod a chwpl o bobol oedd yn delio gyda salwch meddwl ac yn wreiddiol i fi, o ni ddim yn meddwl roedd yn peth fawr, o ni tymer bach yn naif , tan bod chi yn cwrdd a phobol a siarad gyda pobol amdano fe, chi’n sylweddoli bod hwn yn beth enfawr a maen bwysig ein bod yn gallu rhoi hwn mas ar deledu achos maen dangos i bobol ma hwn yn peth enfawr a ma pobol yn byw gyda fe, maen torri perthnasau, torri teuluoedd, ma pobol yn gweld pethau’n anodd.” Hefyd dywedodd maen holl bwysig i ddarlledi hwn ar y teledi : “Mae’n bwysig ein bod yn gallu darlledi hwn ar Bobol Y Cwm i drio codi ymwybyddiaeth a dangos i bobl ei fod ddim ar ben eu hunain. Na’r peth gorau i fi.”

Ma cymeriad Colin wedi cael newid yn ei fywyd yn ddiwethaf gan ei fod wedi dechrau perthynas efo Britt (Donna Edwards) a chawsom sgwrs efo’r actor Jonathan Nefydd sydd yn portreadu Colin yn Pobol Y Cwm.

Pan ofynnodd yr Herald iddo am ei berthynas efo Britt, eglurodd ei fod yn dwli ar y perthynas ond ma ychydig o densiwn yno: “Gobeithio mae’n mynd yn good, fi’n joio, ma na bach a densiwn achos ma Britt wrth gwrs yn addoli ei phlant ond ma Colin fyd yn addoli’r plant ac yn dod ymlaen yn dda gyda nhw. Mae Colin yn dwli ar Catrin ac Aaron ac mae nhw hoff iawn o Colin, ond ma ychydig o densiwn efo Chester achos mae Chester yn ychydig mwy o drwbl, mwy o ‘handful’. Mae Colin yn trio mynd i helpu mas, yn trio helpu cyfamodi Britt a Chester efo’i gilydd a di pethau ddim wastad wedi gweithio mas yn iawn.”

online casinos UK

Heb rhoi gormod o ‘spoiler’ i ffwrdd i’r gynulleidfa, dywedodd ddim llawer am ddyfodol Britt a Colin trwy ddweud: “Dwi ddim yn gwybod, bydden lyfli ond fi’n siŵr bod na lot o broblemau i godi ‘a lot of issues’ yn mynd i godi yn y dyfodol ond mae’n grêt i weithio gyda Donna Edwards (Britt) maen lot o sbort, mae’n mor byrbwyll a fi’n just yn joio yr egni sydd gyda hi ac ni’n bownsio off ein gilydd. Maen neis i gael Colin gyda rhyw’n achos dyw e ddim wedi cael lot o fenywod o gwbl ers iddo fod yno, ma Gaynor gyda fe wrth gwrs ond cafodd nhw ysgariad ac ers ni nid yw e wedi cael llawer o neb, dim ond cwpl o ‘one night stands’. Maen neis i fod mewn perthynas a falle mewn ‘niwclear’ teulu bach gyda plant, fi’n credi mae hwn yn mynd i godi lot o posibiliadau.”

Cyn iddo dechrau perthynas efo Britt roedd ychydig o ‘bromance’ rhwng Colin, Iolo a Tyler a dywedodd roedd gweld perthynas Iolo a Tyler yn datblygu yn lyfli ond gwnaeth Tyler a Iolo dwli Colin allan o’r tŷ ac esboniodd yr effaith ma hwn wedi cael ar Colin yn bersonol: “O nhw wedi twli fi mas so fi di symud mewn gyda Britt. O ni’n dwli byw gyda’r bechgyn o ni’n teimlo bod Colin fel ffigwr tadol dros nhw ac yn holi a gwarchod nhw ac yn caru nhw mewn ffordd ac yn addoli. Maen eithaf ‘gutting’ bod i’n cael ei dwli mas.”

I ddisgrifio ei gymeriad dywedodd Jonathan: “Maen bach yn byrbwyll, gwyllt ond calon mawr a wastad yn edrych mas am bobol eraill. Maen dod dros fel bach o glown weithiau ond dwi’n meddwl ei fod yn eithaf trist, dwi’n meddwl a falle nawr symud mewn i berthynas gyda rhywun fel Britt bod ti’n gallu gweld e’n arafu lawr tymer bach a bod e’n setlo mewn ffordd od mewn perthynas bach yn deuluol ac yn atgoffa fe o’i berthynas gwreiddiol gyda Gaynor.”

Siaradom efo Donna Edwards sydd yn portreadu Britt, sydd wedi cael blwyddyn llawn drama ers Nadolig diwethaf gyda’i chyn-ŵr Sion (Jeremi Cockram) a’i mab Chester (James King) ond mi fydd hapusrwydd i Britt yn y dyfodol efo Colin? Eglurodd Donna am berthynas Colin a Britt: ““Os ma cario ymlaen fel ma fe achos ma Britt yn hoffi hwyl a sbri a ma Colin yn gwybod shwt i greu na a shwt i greu cartref hapus sy’n fab, ond wrth gwrs pa fath o ddylanwadau ar y berthynas gan y pobol drwg bywyd Britt, fel Garry a Chester, swd fydde hwnna’n effeithio ar druan Colin annwyl. Ond Colin a Britt ma nhw’n grêt efo’i gilydd.”

Yn siarad am Britt yn y presennol yn Cwmderi maent yn ystyried Britt i fod yn hapus: “Ar hyn o bryd rwy’n ystyried Britt i fod yn hapus iawn achos mae mewn y berthynas gyda Colin (Jonathan Nefydd) a ma hwnna glên achos mae hi wedi bod trwy shwd gymaint er enghraifft Nadolig diwethaf roedd hi’n cael ei saethu so dod hwnna ddim yn lot o hwyl a dros nos wnaeth hi heneiddio, o’n ni’n meddwl, achos o’r creithiau pethau odd hi wedi goddef erbyn hyn, ma Sion (Jeremi Cockram) allan o’i bywyd a nawr ma hi gyda Colin.”

Nid yw Donna yn meddwl fod Britt yn berson cymhleth, eglurodd hi hyn trwy ddweud : “dyw hi ddim mor gymhleth a ma hi’n ymddangos mewn gwirionedd achos ma Britt yn credu yn y bol bod fel mae hi yn gweld bywyd a fel ma hi’n main ei bywyd hi fynd yn gywir, dyw hi ddim yn deall yn iawn cymhlethdodau bywyd a bod yn rhesymol weithiau ond maen gariadus a hoff iawn o hwyl a sbri a dyw hi ddim yn gymhleth yn ei phersonoliaeth ond maen drylwyr ac maen ffyddlon .”

Pan gyrhaeddodd y Monks yn Nghwmderi gwnaeth y gynulleidfa weld bond agos iawn rhwng Britt, Garry a Brandon, mae ei perthynas wedi dod drwyddo lot o disgwyliadau yn ystod y blynyddoedd yn cynnwys marwolaeth Brandon ond ar hyn o bryd, mae’r perthynas rhwng Britt a Garry yn iawn, eglurodd Donna: “Ma nhw’n dda, Garry yw’r bachgen drwg a wastad wedi bod a ma Britt yn nabod e fel y bachgen drwg ac yn caru fe ta beth, roedd Britt yn magu nhw i raddau achos o nhw’n cael ei magwraeth mewn cartref plant, a Britt yn hynaf so Britt oedd yn fam i Brandon a Garry, nawr ma plant ei hunain sef Chester, Catrin, Aaron a Iolo hefyd i raddau fel llys-fab a’r meibion eraill so ma Britt yn famol ond wrth gwrs os wyt yn meddwl am perthynas y Monks ma fe ‘one for all and all for one’..ma nhw’n glwm.”

Mae mab Britt, Chester wedi bod yn ddrwg yn ystod y flwyddyn hon ac wedi bod rhan o linell stori fawr, pan ofynnodd yr Herald am y berthynas rhwng Britt a Chester, eglurodd Donna mae Britt ychydig yn y tywyllwch : “Rwy’n credu bod Britt yn y tywyllwch achos ma Chester yr un mor glyfar ac yr un mor deallus a Garry a dyna’r broblem achos dyw Britt ddim mor deallus a nhw a felly iddi hi mae’n mor anodd i gadw ar y lon cil mhwysig dechau mae’n anodd iddi , maen brwydro yn erbyn pobol ddrwg fwy deallus.”

Mae Eileen Probert (Sera Cracroft) wedi cael lot o ddrama yn Nhgwmderi yn ystod y blynyddoedd a chawsom sgwrs nos Iau diwethaf, i ddisgrifio ei chymeriad dywedodd Sera: “Mae’n ‘passive aggressive’ a ma hi’n gallu bod yn ystrywgar ond ma hi wedi bod drwy lot, ganddi fabi pan oedd hi’n 16 ac mae hi wedi cuddio hwnna oddi wrth y gynulleidfa a’i gwr cyntaf a’i ail wr a’r trydydd gwr. Ma hi’n gymeriad diddorol i chwarae achos ma hi wedi dioddef lot yn y gorffennol.”

Mae’r berthynas rhwng Eileen a Sioned wedi bod trwy lot yn ystod y blynyddoedd ond ar hyn o bryd mae’n iawn, a dywedodd Sera bod y berthynas yn anhygoel i’w berfformio: “Ond maen berthynas anhygoel i berfformio achos ma e bach yn camweithredol falle ma na bethau da yn gallu digwydd neu drwg go iawn ond yn dda ar rhan ddrama.”

Dywedodd Sera mae’n meddwl fod busnes yn rhan o berthynas rhwng Eileen a’i gŵr Jim Probert (Alun ap Brinley) eglurodd hi hwn trwy esbonio: “Ma Eileen yn licio bod Jim Probert yn ddyn busnes, dwi’n meddwl. Mae’n hoffi safio arian a dwi’n meddwl bod hi’n meddwl bod Jim yn ddyn busnes graff…bydd gyda’r ddau ohonynt ychydig o bres.”

Yn ystod blwyddyn diwethaf cawsom ddod i gwybod taw Angela oedd ferch Eileen ar enedigaeth ei babi yn 16 mlwydd oed. Roedd yn rhaid iddi rhoi’r babi i ffwrdd oherwydd ei rhieni, dywedodd Sera am y sefyllfa rhwng Angela ac Eileen trwy ddweud: “Dw i’n meddwl bod yr holl beth yn drist achos oedd hi ddim yn nabod Angela a oedd ei rhieni hi wedi gorfodi hi i rhoi Angela i ffwrdd a doedd hi byth yn gallu siarad am Angela byth eto, felly ddylen nhw wedi cael cwnsela cyn cyfarfod achos yn amlwg roedd Angela ddim yn berson iach iawn. Felly roedd y berthynas ddim yn iawn i gychwyn.”

Perthynas sydd yn agos i galon Eileen yw gyda Courtney ei wyres eglurodd pam roedd y berthynas yn bwysig i Eile en trwy ddweud: “Ma gen i berthynas ardderchog efo Courtney sy’n beth da achos Angela ydy mam Courtney, Angela ydy’r ferch oedd Eileen ddim yn gwybod amdani ac ma pethau wedi mynd yn ddrwg…achos roedd Angela wedi bihafio’n ddrwg ac mae’r berthynas gyda Courtney yn bwysig iawn i Eileen.”

Mae Sioned (Emily Tucker) wedi bod mewn llawer o llinellau stori yn Nghwmderi ac eglurodd ei pherthynas efo’i gwr Ed (Geraint Todd) trwy ddweud : “Ar y funed bydden yn dweud yn gymhleth iawn. Fi’n credu ma lot gyda’r ddau ohonyn nhw yn erbyn ei gilydd, ma lot o bŵer rhwng y ddoi ohonyn nhw yn erbyn ei gilydd a ma nhw ar drywydd cymhleth iawn.”

Disgrifiwyd ei chymeriad yn gymhleth ac nid yw hi’n esgusodi ei ymarwedd! Ond mi fydd drama i Sioned yn y dyfodol, dywedodd Emily: “Lot o ddrama i ddod yn bendant.”

Cofiwch wylio Pobol Y Cwm, nos Iau a Wener nesaf (Tachwedd 3 a 4ydd) ac ar nos Lun (Tachwedd 7) i gweld beth sydd am digwydd yn Cwmderi.

Author