Home » Myfyrwyr cerflunio i arddangos ym Mecsico Newydd
Cymraeg Top News

Myfyrwyr cerflunio i arddangos ym Mecsico Newydd

Bydd myfyrwyr o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa o waith cerflunio haearn myfyrwyr ym Mhrifysgol New Mexico Highlands yn Unol Daleithiau America.

Mae gan yr adran, sy’n hen gyfarwydd ag ymweld ag America, gysylltiadau sefydledig o fewn rhaglen gyfnewid ym Mhrifysgol Talaith Cansas (Kansas State).

Cynhelir yr arddangosfa o Awst 17 i Fedi 18 yn Oriel Burris Hall y brifysgol.

Mae gan Lisa Evans, cyfarwyddwr y rhaglen gradd anrhydedd mewn cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, gysylltiadau â’r athro celfyddydau David Lobdell ym Mhrifysgol New Mexico Highlands. Meddai: “Rydym wrth ein bodd yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad nodedig hwn ac mae’r myfyrwyr wrthi ar hyn o bryd yn paratoi gwaith fydd yn cael ei foldio, ei gastio a’i orffennu gan y brifysgol yn yr ychydig fisoedd nesaf.

“Mae’r gwaith yn friff agored, mae ond rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio deunydd y gellir ei ddefnyddio i wneud mowldiau a chael ei gastio mewn haearn.”

Mae Lisa hefyd wedi cael gwahoddiad i fod yn aelod o’r panel yng Nghynhadledd Celfyddyd Haearn Bwrw’r Gorllewin ym Mhrifysgol Dacota. Mae’r panel yn mynd i’r afael â gweithgareddau rhyngwladol a chydweithredol gan gynnwys digwyddiadau arllwys haearn, gweithdai a pherfformiad.

Author