Home » Newidiadau i gasgliadau biniau ar ôl 31 Hydref
Cymraeg News

Newidiadau i gasgliadau biniau ar ôl 31 Hydref

screen-shot-2016-09-13-at-10-53-38BYDD y newidiadau a wneir i’r casgliadau sbwriel/deunydd ailgylchu o 31 Hydref ymlaen yn effeithio ar tua 64,000 o aelwydydd. 

Os bydd y newidiadau’n effeithio arnoch chi, fe gewch wybod am hynny drwy’r post rhwng 10 Hydref a 28 Hydref.

Yn achos y rhan fwyaf o bobl, y prif newid fydd hwnnw i’r diwrnod casglu. Bydd newidiadau eraill hefyd yn effeithio ar rai pobl, megis newid o ran wythnosau casglu eu bagiau glas / bagiau du. Gallwch weld a yw diwrnod / wythnos eich casgliad yn newid drwy fynd i Fy Nghartref ar Lleol-i. Nodwch eich côd post, dewiswch eich cyfeiriad a chliciwch ar ‘mynd’.

Bellach bydd nifer fach o breswylwyr sydd byth wedi derbyn gwasanaeth ailgylchu yn y gorffennol yn gallu ailgylchu deunyddiau. Gallwch fynd i Fy Nghartref ar Lleol-i i weld a ydych wedi cael eich ychwanegu at y cynllun. Byddwch yn derbyn calendr a llyfryn gwybodaeth drwy’r post.

Mae gwybodaeth am y cynllun ailgylchu ar gael ar ein gwefan.

Os byddwch yn dod yn rhan o’r cynllun am y tro cyntaf, caiff biniau bwyd a bagiau glas eu dosbarthu ichi ar wahân yn ystod mis Hydref. Os na fyddwch wedi cael bin bwyd / bagiau glas erbyn 28 Hydref, gallwch euharchebu ar-lein drwy fynd i Lleol-i.

Os NAD yw’r newidiadau’n effeithio arnoch, ni fyddwn yn cysylltu â chi. Gallwch ddilyn y trefniant presennol ar hyn o bryd, ond cofiwch roi eich sbwriel allan cyn 6am ar eich diwrnod casglu oherwydd gallai newidiadau i aelwydydd eraill effeithio ar eich amser casglu chi.

Mae’r newidiadau’n digwydd gan ein bod yn cael cerbydau casglu sbwriel newydd ac wedi diwygio’r llwybrau casglu ledled y sir.

Bydd gan y cerbydau newydd le ar wahân ym mlaen y cerbyd er mwyn cadw’r gwastraff bwyd ar wahân i’r bagiau glas / du.

Bydd y cerbydau newydd a’r newidiadau i’r llwybrau yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaeth ac i gyrraedd ein targedau ailgylchu.

online casinos UK

O fis Awst ymlaen bydd ein hymgynghorwyr ailgylchu cymunedol yn ymweld â rhai o’r aelwydydd a effeithir, i egluro’r newidiadau.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, ond mae angen gwneud y newidiadau er mwyn gwella’r gwasanaeth.

Author