Home » Poblogrwydd Arddangosfa Gelf Llanfair Clydogau
Cymraeg News

Poblogrwydd Arddangosfa Gelf Llanfair Clydogau

Arddangosfa 2015
Arddangosfa 2015
Arddangosfa 2015

BYDD Arddangosfa Gelf Llanfair Clydogau eleni yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pentref am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn dechrau ar ddydd Iau Awst 11fed hyd ddydd Sul Awst 14eg. 

Bydd amrywiaeth o waith gan ddeg artist lleol, crochenwaith, ffeltio, printiau leino, cerfiadau, colograffiau a pheintiadau olew, acrylic a dyfrlliw.

Yr artistiaid fydd yn arddangos eu gwaith yw Aerwen Griffiths, Ali Scott, Casi Gray, John J Petts, Claire Parsons, Krystyna Krajewska, Cynthia Westney, Dodie a Jamie Herschel, Sarah Evans a Sue Powell.

Bydd croeso mawr i bawb ddod i weld neu i brynu, neu i gymdeithasu dros baned o de neu goffi a chacen. Dewch yn llu.

Author