Home » Rhagor o fuddsoddiad yn yr A484 yn Sir Gaerfyrddin
Cymraeg Top News

Rhagor o fuddsoddiad yn yr A484 yn Sir Gaerfyrddin

Mae cam olaf y gwaith adfer i atgyweirio’r difrod a achoswyd gan storm Callum ar yr A484 bellach ar waith.

Mae rhaglen gymhleth iawn o waith graddol eisoes wedi’i chwblhau yn un o’r ardaloedd yr effeithiwyd arni waethaf yng Nghwmduad, pan fu farw dyn ifanc yn drasig yn dilyn tirlithriad.

Mae atgyweiriadau o ganlyniad i’r storm hefyd wedi’u gwneud ym Mronwydd.

Effeithiwyd ar ryw 20 milltir o’r A484 gan yr amodau tywydd eithafol yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2018, a oedd yn ymestyn o Gaerfyrddin i Genarth.

Mae ail gam y gwaith cynnal wedi dechrau erbyn hyn mewn ardaloedd eraill yr effeithiwyd arnynt wrth droeon Henallt, De Pante, Gorsaf Llwyfan Cerrig, Tirgwili/Rock & Fountain, Mile End, Nantclawdd, cyffordd yr A484/A475, Gelligatti cyn gorffen yn Flatwood, Cenarth.

Bydd y gwaith yn cynnwys cwympo coed wedi’u difrodi, gosod sylfeini ar gyfer rhwystrau diogelwch newydd, sefydlogi argloddiau a gosod siambrau draenio priffordd newydd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwaith cynnal a chadw’r briffordd mewn ymateb i arolygiadau manwl yn dilyn y storm.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae hwn wedi bod yn waith cymhleth iawn sy’n ymestyn dros 20 milltir ac yn cynnwys nifer o asiantaethau. Er bod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei darfu cyn lleied â phosibl nes y bydd wedi’i gwblhau. Rydym yn deall bod hyn wedi cael effaith fawr ar y gymuned leol a’r bobl sy’n defnyddio’r ffordd, a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i’r gwaith adfer ac atgyweirio hwn gael ei wneud.”

Author