Home » Satish Kumar yn siarad yn Llanbedr Pont Steffan
Cymraeg News

Satish Kumar yn siarad yn Llanbedr Pont Steffan

Jane Davidson, Cydymaith Dirprwy Is-Ganghellor dros Gynaliadwyedd ac Ymgysylltu yn PCYDDS, Satish Kumar, a Dr Tristan Nash, Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth ym PCYDDS Ysgol Astudiaethau Diwylliannol
Jane Davidson, Cydymaith Dirprwy Is-Ganghellor dros Gynaliadwyedd ac Ymgysylltu yn PCYDDS, Satish Kumar, a Dr Tristan Nash, Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth ym PCYDDS Ysgol Astudiaethau Diwylliannol

CAMPWS Y DRINDOD DEWI SANT yn Llambed oedd y lleoliad ar gyfer darlith wadd gan Satish Kumar, ar y testun ‘Soil, Soul, Society’, gyda 250 o bobl yn bresennol.

Ac yntau’n gyn-fynach ac ers tro byd wedi bod yn ymgyrchydd dros heddwch a’r amgylchedd, mae Satish Kumar wedi bod wrthi’n dawel yn gosod yr Agenda Fyd-eang ar gyfer newid ers dros 50 mlynedd. Dim ond naw oed ydoedd pan adawodd ei gartref teuluol i ymuno â’r Jainiaid crwydrol, a deunaw oed pan benderfynodd y gallai gyflawni mwy yn ôl yn y byd mawr, gan ymgyrchu i ddiwygio’r tir yn India a gweithio i droi gweledigaeth Gandhi o India wedi’i hadnewyddu ac o fyd heddychlon yn wirionedd.

Wrth siarad yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed, ddydd Gwener 22 Ebrill, meddai Satish: “Rwyf wrth fy modd i fod nôl yng Nghymru, a minnau wedi byw yng Ngheredigion am dair blynedd.

“Mae f’atgofion am f’amser yma a’r bobl y cwrddais i â nhw yn agos iawn at fy nghalon. Mae’r campws hwn yn un hyfryd ac mae’r pynciau a addysgir yma mor ddwfn. Mae Cymru gyfan yn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd ac yma mae’r gwaith yn y brifysgol hon yn cryfhau hynny ymhellach.”

Meddai Jane Davidson, Pro Isganghellor Cysylltiol (Cynaliadwyedd ac Ymgysylltu) yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd mor braf i groesawu Satish yn ôl i Gymru a gallu dangos iddo beth mae prifysgol sy’n cymryd cynaliadwyedd o ddifrif yn ei wneud, yn ein cwricwlwm, ar ein campysau trwy newidiadau yn niwylliant y sefydliad a’r cyfleoedd newydd sydd wedi’u creu, sy’n caniatáu inni rannu ein dysg gyda’r gymuned ehangach.”

Ychwanegodd Dr Tristan Nash, Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth yn yr Ysgol Astudiaethau Diwylliannol yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Satish am roi anerchiad mor ysbrydoledig yn y brifysgol.”

Pwy yw Satish Kumar?

Ac yntau wedi’i ysbrydoli yn y 1920au gan enghraifft yr ymgyrchydd heddwch o Brydain, Bertrand Russell, cychwynnodd Satish ar bererindod heddwch 8,000 o filltiroedd gydag E.P. Menon. Heb unrhyw arian yn eu pocedi a chan ddibynnu ar garedigrwydd a lletygarwch pobl ddieithr, fe wnaethon nhw gerdded o India i America, trwy Foscow, Llundain a Pharis, i drosglwyddo pecyn syml o ‘de heddwch’ i arweinwyr pedwar pŵer niwclear y byd.

Yn 1973 ymsefydlodd Satish yn y Deyrnas Unedig i ymgymryd â swydd golygydd cylchgrawn Resurgence, swydd y mae wedi’i dal oddi ar hynny, sy’n golygu mai ef sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU fel golygydd yr un cylchgrawn.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n brif ysgogydd nifer o fentrau ecolegol ac addysgol mawr eu parch yn rhyngwladol yn cynnwys Coleg Schumacher yn Ne Dyfnaint lle mae’n dal i fod yn Gymrawd Ymweliadol.

online casinos UK

Yn ei 50fed blwyddyn, aeth Satish ar bererindod arall – eto heb arian yn ei boced. Y tro hwn cerddodd 2,000 o filltiroedd i fannau cysegredig Prydain, menter a ddisgrifiodd fel dathliad o’i gariad at fywyd a natur.

Ym mis Gorffennaf 2000 dyfarnwyd iddo Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Addysg gan Brifysgol Plymouth. Ym mis Gorffennaf 2001, derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Lancaster. Ac ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, cyflwynwyd iddo Wobr Ryngwladol Jamnalal Bajaj am Hyrwyddo Gwerthoedd Gandhi Dramor.

Mae ei hunangofiant, No Destination, a gyhoeddwyd gyntaf gan Green Books yn 1978 wedi gwerthu dros 50,000 o gopïau. Mae hefyd yn awdur You Are, Therefore I Am: A Declaration of Dependence a The Buddha and the Terrorist.

Yn 2005, roedd Satish yn westai i Sue Lawley ar y rhaglen Desert Island Discs ar Radio 4. Yn 2008, yn rhan o’r gyfres Natural World ar BBC2, cyflwynodd raglen ddogfen 50 munud o Dartmoor, Earth Pilgrim, a wyliwyd gan dros 3.6 miliwn o bobl. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar y cyfryngau, ar nifer o raglenni yn cynnwys Thought for the Day a Midweek.

Mae Satish ar Fwrdd Cynghori Our Future Planet, cymuned ar-lein unigryw sy’n rhannu syniadau ar gyfer newid gwirioneddol, ac i gydnabod ei ymrwymiad i les anifeiliaid a byw’n dosturiol, fe’i etholwyd yn ddiweddar yn is-lywydd gyda’r RSPCA. Mae’n parhau i addysgu a rhedeg gweithdai ar ecoleg barchus, addysg gyfannol a symlrwydd gwirfoddol ac mae galw mawr amdano fel siaradwr yn y DU a thramor.

Author