Home » Sir gaerfyrddin yn croesawu’r tîm Seland Newydd
Cymraeg News

Sir gaerfyrddin yn croesawu’r tîm Seland Newydd

PROFODD CARFAN rygbi o Lanelli frwydr rhwng y goreuon wrth i hemisffer y de wynebu’r De mewn gêm ryngwladol o gystadlu cyfeillgar rhwng y timoedd academi gorau yng Nghymru a Seland Newydd.

Fel un o’r ddau dîm gorau yng Nghymru, cafodd Academi Rygbi Coleg Sir Gâr wahoddiad i groesawu’r garfan orau o fechgyn o Seland newydd fel rhan o daith Ysgol Uwchradd y Bechgyn Hamilton o’r DU ac Iwerddon.

Daeth taith Sir Gaerfyrddin i ben mewn gêm rhwng y ddwy garfan a welodd yr Haka yn dod yn fyw ar dir Llanelli cyn y gêm – profiad newydd i’r tîm cartref.

Anogwyd yr ymweliad â Chymru gan Warren Gatland, Prif hyfforddwr Cymru, sy’n gyn-ddisgybl o’r ysgol yn Seland Newydd, sy’n cydnabod bod academi Coleg Sir Gâr yn un o’r ddau dîm gorau yng Nghymru ar lefel rygbi colegau.

Dywedodd Euros Evans, cyfarwyddwr yr academi rygbi yng Ngholeg Sir Gâr: “Yn dilyn yr adrenalin o chwarae gêm rownd derfynol genedlaethol yn Stadiwm y Principality yr wythnos ddiwethaf, dangosodd y garfan ddycnwch gwirioneddol wrth wynebu’r tîm ysgol uwchradd gorau yn Seland Newydd a hynny mewn perfformiad balch.”

“Hoffwn ddiolch i’r teuluoedd a gefnogodd yr ymweliad trwy gynnig eu cartrefi a’u lletygarwch i’n hymwelwyr o Seland Newydd’

Author