Home » UAC yn cynnal Cynhadledd Amaeth Cymru lwyddiannus
Cymraeg News

UAC yn cynnal Cynhadledd Amaeth Cymru lwyddiannus

(ch-dd): Economydd, Gwleidydd ac aelod o Grŵp economyddion ‘Vote Leave’ Yr Athro Warwick Lightfoot, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Farchnad Allforio Hybu Cig Cymru Deanna Leven, Steve Keyworth, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Environmental Systems a Cadeirydd y Gynhadledd – newyddiadurwraig materion cyfredol ITV Cymru Catrin Haf Jones, a arweiniodd sesiynau trafod y panel

CYNHALIODD Undeb Amaethwyr Cymru gynhadledd lwyddiannus dros ben yn canolbwyntio ar y cyfleoedd ar gyfer amaethyddiaeth yn dilyn Brexit a hynny ym Mhafiliwn yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol ar ddydd Iau Hydref 6.

Roedd gan Gynhadledd Amaeth Cymru amrywiaeth eang o siaradwyr, gan gynnwys yr Economydd, Gwleidydd ac aelod o Grŵp economyddion ‘Vote Leave’ Yr Athro Warwick Lightfoot, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Farchnad Allforio Hybu Cig Cymru Deanna Leven, Steve Keyworth, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Environmental Systems, Dirprwy Brif Weithredwr RWAS ac Ysgolhaig Nuffield Aled Jones, Prif Swyddog AHDB (Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) Tom Hind a Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru Sophie Howe.

Catrin Haf Jones, newyddiadurwraig materion cyfredol ITV Cymru oedd yn cadeirio’r gynhadledd.

Yn siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Hoffwn longyfarch staff UAC am drefnu cynhadledd wych ar ein cyfer.

“Cawsom fewnwelediad wrth i ni archwilio’r agweddau gwahanol a’r cyfleoedd am dwf amaethyddol yn dilyn Brexit, a hoffwn ddiolch i’r siaradwyr ac i bawb a gefnogodd y digwyddiad am eu cyfraniadau.”

Ni allai’r testun ei hun wedi bod yn fwy perthnasol, o ystyried bod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddai’n rhoi gwybod i’r UE o fwriad y DU i adael rhwng Ionawr a Mawrth 2017 a hynny’n gychwyn ar y broses o drafodaethau ffurfiol ynglŷn â’r telerau ymadael.

Ychwanegodd Mr Roberts: “Roedd yn wych gweld rhai sydd ddim yn aelodau UAC yn mynychu Cynhadledd Amaeth Cymru – roedd yr ystafell yn llawn pobl oedd am rannu ein brwdfrydedd ac am wybod mwy am yr hyn sydd i ddod, ac am rannu eu syniadau a’u meddyliau. Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu llwyfan sy’n adeiladu ar ein gwybodaeth ni oll, ac yn ein helpu i ddeall a chanfod y cyfleoedd sydd gyda ni o wahanol gyfeiriadau bellach.

“Roedd y siaradwyr yn wych ac yn procio ffyrdd newydd o feddwl, bydd pob un ohonynt yn helpu i feithrin y sefyllfa gywir ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru ac ar draws y DU, gan roi pwysigrwydd amaethyddiaeth ar frig yr agenda. Y ffordd ymlaen er mwyn cyflawni’r hyn sy’n iawn i ni yw parhau i rannu gwybodaeth, gwrando ar safbwyntiau gwahanol a pharhau i ddysgu.”

Author