Home » Y Gwyll yn dychwelyd, a chyfrinachau’n dod i’r golwg
Cymraeg News

Y Gwyll yn dychwelyd, a chyfrinachau’n dod i’r golwg

Y Gwyll: Ble a beth sydd nesaf i DCI Mathias?
Y Gwyll: Ble a beth sydd nesaf i DCI Mathias?
Y Gwyll: Ble a beth sydd nesaf i DCI Mathias?

BYDD y gyfres ddrama Y Gwyll yn dychwelyd i S4C nos Sul, 30 Hydref; ac yn y gyfres hon mae’r ditectif enigmatig Mathias hefyd yn canfod ei hun o dan chwyddwydr yr heddlu.

Roedd diweddglo cyfres ddiwethaf Y Gwyll yn danllyd, wrth i ni weld carafán Mathias yn llosgi i’r llawr.

Fe oroesodd DCI Tom Mathias yr ymosodiad, ond mae canlyniad y llosgi bwriadol ag oblygiadau hirdymor i sawl cymeriad yn y gyfres newydd, yn cynnwys Mathias ei hun.

Mae’r actor adnabyddus Richard Harrington sy’n portreadu DCI Mathias yn edrych ymlaen at glywed ymateb y gwylwyr i’r drydedd gyfres.

Dros yr wythnosau nesaf, caiff sawl dirgelwch ei datgelu a chawn wybod mwy am y cartre’ plant ym Mhontarfynach.

“Cafodd carafán Mathias ei llosgi yn ystod y gyfres ddiwetha’, ac rydyn ni’n ffeindio mas pwy oedd yn gyfrifol….. Ond dwi ddim am sbwylio dim!” meddai Richard sy’n dod o Ddowlais ger Merthyr yn wreiddiol.

“Mae e’n byw mewn gwesty ar hyn o bryd, dwi’n meddwl ei fod e’n joio’r ffaith ei fod e’n byw yn rhywle gwahanol….Y broblem am fyw mewn carafán yng nghanol y wlad yw nad oes llawer o bobl yn pasio ac mae e’n gallu cuddio.

Nawr mae fe’n cael y profiad o gwrdd â phobl newydd, ac rydyn ni’n gweld ochr arall iddo fe.”

Yn ystod y gyfres ddiwethaf daethom i wybod mwy am gefndir y ditectif preifat, ac mae Richard yn dweud ei fod e’n anghytuno â’i gymeriad yn aml iawn.

“Dwi’n cydymdeimlo gyda fe, ond dwi’n flin gyda fe hefyd! Dwi’n teimlo y dylai fe fynd i wneud yn iawn gyda’i ferch ei hun.

online casinos UK

“Dyna’r unig broblem sydd ‘da fi gydag e, fi moyn iddo fe fod yn dad eto,” meddai Richard sy’n 41 oed a bellach yn byw yng Nghaerdydd.

“Mae elfennau cryf ohona i fy hun yng nghymeriad Mathias, dwi’n meddwl bod hynny’n naturiol. Mae e’n gymeriad arbennig a chyffrous i’w bortreadu.

“O’r holl gymeriadau dwi wedi actio, does gen i ddim hoff gymeriad.

“Ond dwi’n sicr yn hoff iawn o Mathias, fe yw’r cymeriad dwi wedi ei bortreadu am y cyfnod hiraf, ac mae gen i barch mawr tuag ato fe.”

Mae Richard yn dweud bod ‘na deimlad gwahanol i’r gyfres ddiweddaraf. “Mae e’n wahanol, gan ein bod ni’n ffeindio mas lot mwy amdanyn nhw fel cymeriadau yn y drydedd gyfres.

“Bydd y gwylwyr yn gweld lot o bethau cyn y cymeriadau, byddan nhw un cam ar y blaen. Dwi’n hoffi ble mae’r sgriptwyr wedi mynd ag e.”

Author