Home » Yr ymrwymiad am dai fforddiadwy yn cael ei wireddu
Cymraeg News

Yr ymrwymiad am dai fforddiadwy yn cael ei wireddu

Dylan Bryn: a Garreglwyd ym Mhen-bre

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes yn cyflawni ei addewid o ddarparu 1,000 yn fwy o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Bu Aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod â chynghorwyr lleol yr wythnos hon ar dri safle a glustnodwyd ar gyfer adeiladu ystod o dai cyngor newydd sbon cyn galw heibio i weld y cynnydd a wnaed ar gyfres o fflatiau yng nghanol y dref.

Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu dros 60 o dai newydd dwy a phedair ystafell wely ar gyfer teuluoedd mewn ardaloedd â’r galw uchaf ar draws y sir yn seiliedig ar dystiolaeth o’r gofrestr tai.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, bydd cam un yn gweld tai newydd yn cael eu hadeiladu ym Maespiode yn Rhydaman, Garreglwyd ym Mhen-bre ac yn ardal Dylan ym Mryn, Llanelli.

Mae pedwar fflat dwy ystafell wely newydd yn cael eu creu uwchben unedau adwerthu yng Nghanol Tref Llanelli, gyda bywyd trefol yn ffurfio rhan o gynlluniau’r cyngor i adfywio’r dref, i gefnogi busnesau ac i gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref.

Bydd y fflatiau yn cael eu gosod i gyplau neu unigolion sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellwyd yn y polisi gosod tai lleol newydd ar gyfer canol y dref, sy’n rhoi blaenoriaeth i bobl sy’n gweithio yng nghanol y dref, neu sy’n cychwyn busnes yno, ac sydd â digon o incwm i fforddio talu rhent heb fod angen hawlio budd-dal tai.

Mae adnewyddu tai gwag a llefydd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu tai fforddiadwy newydd.

Ers mis Ebrill 2016, mae’r cyngor wedi helpu i adnewyddu bron i 30 o dai gwag, gan weithio’n agos gyda pherchnogion er mwyn sicrhau buddsoddiad, ac mae bellach yn rheoli 30 o denantiaethau newydd yn y sector rhentu preifat hefyd drwy ei asiantaeth gosod tai mewnol.

Yn ogystal, mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynyddu ei stoc dai drwy brynu tai ar y farchnad agored.

Gwariwyd £3.9 miliwn eisoes ar brynu bron i 40 o dai gan gymryd anghenion teuluoedd penodol i ystyriaeth.

online casinos UK

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Nid ydym wedi gwastraffu unrhyw amser yn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 1,000 yn fwy o dai fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin.

“Rydym wedi cyd-weithio’n agos gyda’n timoedd cynllunio a dylunio eiddo er mwyn cynhyrchu cynlluniau cyffrous ar gyfer tai newydd yn yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, ac rydym wedi bod yn flaengar yn ein dull o weithio gyda chydweithwyr yn yr adran datblygu economaidd er mwyn sicrhau bod opsiynau llety o safon dda yn ffurfio rhan o waith adfywio cyffredinol canol tref Llanelli.

“Braint oedd cael siarad â thenantiaid newydd sydd eisoes wedi symud i dai rydym wedi eu prynu yn ein hymdrechion i gynyddu ein stoc yn unol â’r cynnydd mewn galw.

“Wrth ddarparu tai i bobl mewn angen, mae ein buddsoddiad hefyd yn helpu i greu cannoedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant yn y diwydiant adeiladu.

“Mae’r rhaglen hon wedi bod yn uchelgeisiol o’r cychwyn, ond wrth edrych ar y cynnydd arbennig rydym eisoes wedi ei wneud, gall pawb weld ein bod yn cymryd yr ymrwymiad hwn o ddifri.”

Author