Home » Ydi ‘adnoddau cenedlaethol Cymru’ i ffwrdd efo’r adar?
Cymraeg National News

Ydi ‘adnoddau cenedlaethol Cymru’ i ffwrdd efo’r adar?

Gwilym Hughes

GOFYN y cwestiwn ydw i cofiwch, wrth edrych ar y sefyllfa bresennol drwy lygaid efo blynyddoedd o brofiad ac wrth gwrs, synnwyr cyffredin. Mae’n eithaf amlwg i mi fod gynnon ni yng Nghymru drychineb anfarwol wedi ei chreu drwy flynyddoedd o ddiweithrediant. Y rhai sydd a’r grym i reoli y sefyllfa ydan ni fel ‘sgotwyr’ a mentoriaid cefn gwlad yn cael ein gorfodi i ddilyn.

Cyn 1981 roeddem fel ‘sgotwyr’ a pherchnogion pysgodfeydd ar ein hafonydd, llynnoedd, camleision ag ati yn cael cadw trefn ar ysglyfaethu ein pysgod  gan ‘fulfrain a hwyaid danheddog’. Cyfraith gwlad ddaeth i rym i’n hatal rhag cadw trefn arnynt, ‘Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981’.

Beth sydd wedi digwydd? Mae ein hafonydd a physgodfeydd yn brysur ddirywio i bwynt bron na ellir ei arbed rhag rhedeg ar ei ben i’r wal. Does dim un rheswm yn unig dros y dirywiant hyn, ond mae llawer gwall yn ymddangos wrth edrych yn fanwl ar rhai o’r ffeithiau.

Un gwall o bwysigrwydd penodol yw’r ysglyfaethu ar y pysgod man. Yr eogiaid a’n brithyll mor ifanc, y pysgod cen bras, y gangen las ar brithyll brown yn ein hafonydd, yn ein llynau, nentydd a ffosydd. Lle mae’r rhain yn cynrychioli eu hunain i gadw’r drefn i fynd yn flynyddol. Mae’r ‘mulfrain a’r hwyaid danheddog’ yn gwneud difrod bron i  ddifodiant ein pysgodfeydd.

Cyn 1981 ychydig o’r adar ysglyfaethu ma oedd yn bresennol am ein bod yn cadw trefn arnynt. Mae’n saff i ddweud fod ein hafonydd ac ein pysgodfeydd wedi didoli yn ardderchog yn y plwc hwn, ar fwyniant y rheolwyr tuag atynt, pob parch iddynt am gynrychioli’r drefn oeddynt wedi ei cyflogi i wneud. Beth ddigwyddodd i’r rheolwyr hyn? Mae cred ar beth ddigwyddodd yn hollol glir i mi beth bynnag, o ‘Awrdurdod Afonydd Lleol’, led, led Cymru, i ‘Asiantaeth yr Amgylchedd’, a trwodd wedyn i ‘Adnoddau Cenedlaethol Cymru’, collwyd parhad y rhai oedd yn gwybod sut i ddidoli blynyddoedd lawer o brofiad am y gwaith, ia, collwyd o drwy wastraff,  drwy ymddeoliad, a newid gwaith ciperiad afon i edrych ar ol dipio gwastraff anghyfreithlon, a gadael yr afonydd i’w difeisio eu hunain, os gwn i beth ddigwyddodd i’r arian oedd wedi ei neilltuo ar gyfer yr afonydd i’w cynnal a chadw?. Oedd yr uniad syfladiadau ma yn cael ei basio i reolwyr nad oedd pysgodfeydd yn agos i’w calonau, tybed?

Wrth glywed a darllen fod ‘Adnoddau Cenedlaethol Cymru’ yn cysidro stopio’r sgotwrs, sgota am eogiaid yn gyfangwbwl, am blwc beth bynag, gan fod sefyllfa ei dyfodol yn ddifrifol, bron na fyddant yn marw allan rhwng  y deg i ugain mlynedd nesa ma. Efallai ei bod yn gweld y byddai mwy o eogiaid a brithylliad mor yn helpu’r’  sefyllfa, i gladdu mwy o wyau i greu mwy o bysgod bach i fwydo mwy o ‘fulfrain a hwyaid danheddog’, i fagu mwy o ‘fulfrain a hwyaid danheddog’ i fwyta mwy o bysgod, ag yn y blaen, efallai?

Yn 2020 ar ôl ymchwiliad cyhoeddus fe darwyd y ‘sgotwrs’ efo is-ddeddf, i’n hatal i fynd ac eogiaid o’r afon yn gyfan gwbl, a rhai brithyll môr o safon pwysau dros chwe phwys, er bod y sgotwrs yn rhoi rhan fwyaf ohonynt yn ôl yn yr afonydd am ei bod yn sylwi fod dirywiad i’w trefn!  Yr is-ddeddf hefyd efo llawer o reolau o bwyslais arnom. Pam meddwch chi oedd hyn yn digwydd? Tra roedd yr ysglyfaethu gan y fulfrain a’r hwyaid danheddog yn cynyddu yn flynyddol! Hefyd pan nad oedd ganddynt ddim gobaith i blismoni’r ddeddf, dim ond ei gadael hi ar gydwybod y ‘sgotwr’. ‘Sgwn i oedd hyn yn ddechrau ei dymuniad efallai, i gael gwared a sgotwrs oddi ar yr afonydd, tybed? Tra roedd materion eraill sydd yn bresennol heddiw ac yn y gorffennol agos, wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrthynt? Cwestiwn derbyniol sydd angen ateb iddo.

Sut oeddynt heb sylwi am y broblem fawr hefo’r ‘mulfrain a hwyaid danheddog’? Sut allen nhw amddiffyn hyn? Achos ar ôl llawer o gwynion gan  y ‘sgotwrs’ a pherchnogion y pysgodfeydd, am flynyddoedd maith fe drefnwyd ‘Trwydded Difa’  i ymdrin a’r achlysuron hyn. Wel hynny oedd y gred ar y pryd! Oedd hyn yn sgrin mwg ganddynt? Welwch chi fai arna i o gael amheuaeth ynglŷn â hyn wrth gysidro’r cyfyngiadau a’r sefyllfa hefo’r drwydded i ddifa?

Welsoch chi ffasiwn strach i gael trwydded i ddechrau arni! A honno wedi ei threfnu fwy tuag at amddiffyn y ‘mulfrain a hwyiaid danheddog’, na tuag at amddiffyn yr eogiad a brithyll môr a physgod eraill yn ein hafonydd a’n pysgodfeydd. Anodd i’w gredu, ond  mae’n ffaith.

online casinos UK

Un esiampl yw’r drwydded ddiwethaf wnaeth ‘Pysgodfa Afon Dyfi 1929’ ei harchebu, gwelwyd nad oedd pwynt cario ymlaen efo hyn.  Ffurflenni cymhleth ac yn gofyn am lawer o fanylion. Yn 2021/2, ar ôl llawer o fentro yn ôl ac ymlaen efo cwestiynau digon digalon wyddoch, ‘Da chi wedi ceisio eu dychryn nhw?’ ateb, ‘Do’, ‘Pa ffordd aethon nhw? i fyny ta i lawr yr afon? ateb ‘i lawr’. Tua wythnos o amser rhwng bob llythyr. ‘Da chi ddim wedi gyrru ateb o ran eich trwydded flaenorol 2020/21 aton ni, da ni’n rhoi eich cais ar un ochor dros dro’. Oedd hyn yn ymgais ganddynt i dori calonau yr ymgeiswyr yn eu cais am drwyddedi?Yn y diwedd ar ôl wythnosau yn mynd nôl a ‘mlaen dyma’r drwydded yn cyrraedd, ‘2 mulfran a 3 hwyaden danheddog’ gyda chyfyngiadau na ellir ei choelio. Dim ond rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Dim ond un fulfran ac un hwyaden ddanheddog y  mis i fyny at y cyfanswm. Chewch chi ddim saethu nhw os nag oes yna ddau yn bresennol efo’i gilydd, â’i bod yn ysglyfaethu ar y pryd. Mae rhaid i hyn gydredeg efo ceisio eu dychryn wrth weiddi, a gwisgo’n liwgar. Dim ond gwn haels 12/16/20 bore. Dim cetris plwm! Llawer o resymau eraill hefyd, angrheadadwy! Ble ‘roedd  presenoldeb synnwyr cyffredin, deudwch?

Wel wir, eu dychryn i’w symud i ysglyfaethu ar ran arall o’r afon neu i afon arall yn y cyffiniau.  Mae’r afon Dyfi a’i llednentydd yn cyfri tua thri chan milltir ati gilydd.  Gwaeddi a gwisg liwgar? Pan mae ystod y gwn haels tua 40 llath ar y mwyaf, dim gobaith mul yn rhedeg mewn ras geffylau i ddifa a rheoli’r ysglyfaethu! Mae’n edrych yn debyg eu bod yn coelio nad ydynt yn ysglyfaethu rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, hefyd.

Mae’r sefyllfa allan o reolaeth mewn mwy nag un ffordd a wnaeth  i mi wneud penderfyniad i ddechrau’r ‘Deiseb’. Ceisio hel cefnogaeth er mwyn edrych os oes posib cael trefn ar bethau cyn iddi fynd yn rhy bell. Mae hyn yn mynd i ddibynnu ar yr ymateb. Mae’r sefyllfa yn gwaethygu wyddoch, pan dach chi’n cysidro fod cynyddiad y fulfran wedi codi tua 60 y cant ers 1981, ac yn ôl yn 1986 mi oedd cyfrif yr hwyaden ddanheddog dros fil o barau yng Nghymru. Rhain yn dod a tua 12 cyw’r un, yn flynyddol. Credir bod 20 mil ohonynt ym Mhrydain fawr erbyn hyn, amcangyfrif ceidwadol cofiwch. Does dim ffin sir na ffin gwlad yn perthyn iddynt. Fe all yr ‘hwyaden ddanheddog’ fwyta rhwng 10 a 30 o bysgod bach yn ddyddiol. Rhowch gysidred o gyfartaledd o 20 bob dydd yr un,  sy’n golygu 400,000 o bysgod bach yn llai, yn ddyddiol, 146,000000 miliwn yn llai mewn blwyddyn.  Does dim gobaith i’r afonydd pan mae’r ysglyfaethu yn parhau mor hael â hyn, dim bai y ‘sgotwr’ ydi hyn, siwr.

Gadwch i ni gysidro’r ffaith bod yr ‘hwyaden ddanheddog’ yn ymledol. Dydyn nhw ddim i fod yma! Maent yn bwyta bwyd ein hadar brodorol ni. Glas y Dorlan a’r Crëyr Glas. Mae’r gystadleuaeth rhyngddynt yn dangos ei le yn barod. A’r mulfrain, wel yn y môr ydy eu lle nhw. Adar môr ydy nhw! Mae’r cynyddiad ynddynt wedi eu gyrru i mewn i’r tir. Mae’r rhain yn bwyta pysgod bach hefyd, ac yn achosi  difrod i bysgod llawer mwy mewn maint. Maent yn dechrau cymryd nifer fawr o’r creyrfa drosodd ac yn lladd y coed maent yn clwydo ynddynt. Coed canrifoedd o oed, drwy bigo ei dail i ffwrdd, a hefyd lladd y coed llai odditanynt drwy ei baeddu. Welsoch chi erioed y fath ddrewdod?

Yn ogystal a hyn cysidrwch fod  y ‘Ddeddf bywyd gwyllt a Chefn Gwlad’ yn  42 o flynyddoedd allan o ddyddiad. Mae llawer mwy o’r adar yma heddiw i beth oedd adeg hynny. Cysidrwch ar yr un pryd fod yna ddeddf wledig arall, sef, ‘ Deddf  Eog a Physgod dwr Croyw’ 1975, sydd yn gorfodi  drwy adran 28, ‘Adnoddau Cenedlaethol Cymru’, i gynnal a gwella pysgodfeydd. Fedra i ddim gweld yn glir o ble maent yn dod ynglŷn â hyn. Drwy edrych ar y ddwy ddeddf yn erbyn ei gilydd, ei barn a’i rheolaeth efo ‘Trwydded Difa’ yr adar ysglyfaethu, ar ffaith ei bod nhw wedi cau pob deorfa bysgod oeddynt yn ei rhedeg tua 10 mlynedd yn ôl yn awr. Hyd yn oed y rhai preifat! Pam? Tua’r un adeg ag yr oeddynt yn cael gwared a rhan fwyaf o’r ciperiaid afon! Beth sydd ar y gweill ganddynt? Credais yn ystod y blynyddoedd diwethaf ma, fod y pysgod oeddynt yn ei fagu trwy ei deorfeydd yn helpu i fwydo’r gynyddiad yn yr adar ysglyfaethu ma, ac wrth gwrs tydi’r pysgod hyn ddim ar gael iddynt i ysglyfaethu arnynt heddiw.

Dydi’r ddeiseb ddim ar gyfer lladd bob un o’r adar ysglyfaethu ma wyddoch chi. Dim ond rhoi’r mater ar sylfaen deg i ni gael dod a chydbwysedd yn ôl i’n hafonydd. ‘Trwydded Gyffredinol’ amdani, mae hyn yn bresenol dan ei rheolaeth, nes cawn i dro ar bethau. Amddiffyn dyfodol y pysgodfeydd, y gwahanol bysgod, a hefyd ein hadar brodorol ynte! Ble mae ‘Adnoddau Cenedlaethol Cymru’ dudwch? Ydyn nhw yn addas at y diben? Mae angen gadael emosiynau personol o dan glo pan maent yn penderfynu ar ddyfodol y pysgodfeydd maent yn gyfrifol amdanynt. Synnwyr cyffredin efallai yn erbyn effaith gwyddonwyr a’i math? Mae’r hen ddywediad yn wir ‘Gormod o gogyddion wna ysbail y cawl’.

Author