Home » Cyfweliad gyda Fflur Dafydd
News

Cyfweliad gyda Fflur Dafydd

screen-shot-2016-11-28-at-10-26-37NOFELYDD, cerddor ac ysgrifennydd creadigol o Gaerfyrddin yw Fflur Dafydd.

Yn 2005 cafodd ei nofel gyntaf ‘Lliwiau Liw Nos’ ei chyhoeddi, ac chafodd ei ail nofel ‘Antyniad’ ennill y fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 2006 a cafodd ei drydydd nofel ‘Y Llyfrgell’ gwobr ‘goffa Daniel Owen’ yn yr Eisteddfod yn 2009. Mae yn ysgrifennu nofelau yng Nghymraeg a Saesneg.

Astudiodd am MA ym Mhrifysgol East Anglia (UEA) a PHD o Brifysgol Bangor lle ymchwiliodd waith y bardd, R.S.Thomas. Mae yn darlithio, ysgrifennu creadigol, ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu y gyfres ddrama Parch. Cawsom sgwrs efo Fflur i siarad am ei gyrfa, lle mae’n cael yr ysbrydoliaeth am ei nofelau a cherddoriaeth am y Parch.

Yn ystod ei gyrfa mae wedi ysgrifennu nifer o bethau gwahanol ar gyfer llwyfannau wahanol, a dywedodd: “Erbyn hyn dwi’n meddwl bo fi yn gweithio ar draws gwahanol blatfformau fel awdur ac yn mwynhau gwneud hynny.’

Mae’r broses o ysgrifennu cerddoriaeth a nofelau yn wahanol iawn, eglurodd Fflur i ysgrifennu cerddoriaeth maent yn gweithio ar y gerddoriaeth a’r melodïau a chordiau: “Mae’r gerddoriaeth wastad yn dod yn gyntaf yn hytrach na’r geiriau. Mae geiriau yn dod ymhell wedyn.”

I ysgrifennu nofel, maent yn arafu’r broses ar lyfr maent yn ysgrifennu ar hyn o bryd, dywedodd: “Erbyn hyn dwi’n arafu’r broses y weithred o ysgrifennu nofel achos dwi’n meddwl bod y nofel dwi wedi bod yn gweithio arni ar hyn o bryd yn mynd i fod yn well os dwi just yn cymryd yr amser, hyd yn od os maen cymryd blynyddoedd, dwi’n araf yn y ffordd rwyf yn ysgrifennu ar y funud a dwi’n meddwl y peth fwyaf call yw peidiwch rhuthro i ysgrifenni nofel.”

Eglurodd Fflur y broses o ysgrifenni nofel: “Dwi wedi tueddu yn y gorffennol i ysgrifennu nofelau yn gyflym iawn ar gyfer cystadlaethau neu ‘deadline’ eitha llym a dwi yn y broses nawr o ysgrifennu nofel sydd wedi cymryd yn hir iawn. Dwi wedi bod yn meddwl amdani ers ddeg mlynedd…ar rhan y broses o ysgrifennu nofel rwy’n triol storio weithiau gyntaf ac yna fyddai’n gweithio’r nofel mas yn ymhen gyntaf cyn fy mhad ysgrifennu i yn dechrau ar bapur.”

Am ysbrydoliaeth, mae Fflur yn cael ei hysbrydoliaeth gan gymysgedd o bethau a bywyd go iawn yn dod mewn i’r gymysgedd, eglurodd: “Maen gymysgedd o bethau, dwi’n meddwl straeon go iawn, mae rheini yn ysbrydoli, mae na bethau yn digwydd trwy’r adeg dwi’n meddwl trwy fywyd sydd yn fwy absẃrd, na bydda rhywun yn credu. A hefyd themâu sydd yn ym mhoeni, mae rheini yn gyrru i fi, i drial ysgrifennu achos mae gennyf diddordeb yn sut mae’r cof yn gweithio a sut mae’r cof yn effeithio ar ein bywydau ni, a hanes teuluoedd, a pherthynas rhieni a’i plant, mae pethau bach fel na, a sut mae’r iaith Gymraeg yn datblygu, beth yw hunaniaeth? Rhywun sy’n siarad Cymraeg? Mae’r oll bethau hyn, mae’r themâu hynny mewn ffordd yn fy mhoeni i ac yn chwarae ar fy meddwl, a wedyn dwi’n trio meddwl am ffyrdd o ddwyn nhw mewn stori ond hefyd mae ffilmiau yn creu argraff aranai yn aml iawn, delweddau gweledol chryf, dwi’n gweld nhw ar y sgrin, mae rheini yn bwydo mewn i nofelau hefyd.”

Pan roedd yn ifanc, roedd yn darllen pob llyfr roedd yn gallu, fel Enid Blyton. Yn yr iaith Saesneg mae’n darllen llawer o nofelau Ian McEwan.

online casinos UK

Gan ei bod yn ysgrifennu yn y ddwy iaith, yn y Gymraeg mae na fwy o gysylltiad emosiynol ac maent yn arbrofi efo’r iaith, eglurodd hon: “Maen eitha gwahanol achos pan dwi’n ysgrifenni yn Gymraeg, dwi’n meddwl rwyf yn fwy ymwybodol o eisiau arbrofi gyda iaith a gwneud pethau gwahanol gyda’r iaith, a bod yn mwy dyfeisgar a gwthio’r iaith ymlaen ychydig. Pan dwi’n sgwenni yn Saesneg dwi’n mynd i’r gwrthwyneb, dwi’n trio tynnu pethau i nol a bod yn symlech. Dwi’n meddwl bod yr iaith Gymraeg i fi yn fwy emosiynol a mae’n iaith Saesneg falle yn fwy clir a phwrpasol, felly dwi’n sgwenni gwahanol fath o stori, pan rwyf yn sgwenni yn y ddwy iaith.”

Nid yw Fflur yn meddwl am y darllenwyr pan mae’n ysgrifennu ei nofelau: “Pan dwi’n sgwenni nofel dwi byth yn meddwl am y gynulleidfa, dwi’n meddwl am beth dwi eisiau sgwenni a beth dwi eisiau dweud y stori, y stori ei hun i’w hadrodd a gwirionedd fi yw’r nofel, dwi ddim yn meddwl am beth mae’r darllenwyr eisiau.” Ond mae ysgrifennu ar gyfer teledu neu ffilm yn broses hollol wahanol eto ac mae rhaid meddwl am y gynulleidfa: “Pan dwi’n sgwenni i deledi neu ffilm, maen hollol i’r gwrthwyneb, fi’n gorfod meddwl am bob cam o’r ffordd, sut mae’r gynulleidfa yn mynd i deimlo, beth mae nhw yn meddwl beth sy’n mynd i digwydd nesaf a wedyn ti’n trio newid e i beth ti’n meddwl mae nhw’n meddwl . Fi’n credu bod teledu a ffilm lot mwy o gyfrwng y gynulleidfa. Lle mae nofel yn llais personol ti a dwi’n triol sgwenni beth sy’n wir i fi yn hytrach na beth mae pobol eisiau ei darllen.”

Gofynnais i Fflur os bydd yn ymchwilio i genres gwahanol am ei gwaith ysgrifennu: “Fi’n credu bod y genre rwyf yn denu at yw Thriller, felly ma pob un peth dwi wedi ysgrifennu mewn ffordd wedi cael rhyw elfen o Thriller, neu rhywbeth tywyll, comedi tywyll. Dwi fili gweld fy hunain yn mynd yn orfodol i genres eraill.

Efo’i cerddoriaeth mae wedi cyhoeddi pedwar albwm ac yn 2010 cafodd y teitl ‘Artist Benywaidd Y Flwyddyn’ yn Ngwobrau Roc a Pop Radio Cymru a maent yn gobeithio rhyddhau albwm newydd o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o’i phlentyndod: “Dwi wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth erioed, ers o ni’n fach a phan o ni’n blentyn, o ni yn obsesiynol am ganeuon ac yn dysgu pob curiad, pob gair ac yn hoffi creu caneuon yn huan ond dwi’n meddwl dyna yn sicr beth sy’n gwneud i fi drial creu cerddoriaeth yw bod fi’n caru’r gerddoriaeth, beth dwi’n clywed, felly does na ddim mwy ysbrydoliaeth na hynny.”

Yn siarad am ei cherddoriaeth diweddar esboniodd ei bod wedi rhyddhau can yn ddiweddar ar gyfer elusen: “Rwyf wedi rhyddhau un gan yn ddiweddar ar yr albwm ‘More in Common’ sydd yn codi arian am yr elusen ‘Hope not Hate’ a gwnes i recordio’r trac hyn cwpl o wythnosau yn ôl a wnaethom ni godi awch mawr ynddi i recordio mwy o ganeuon.”

Cafodd y gyfres poblogaidd ‘Parch’ ei ysgrifennu gan Fflur ac eglurodd pa fath o broses oedd e i ysgrifennu: “Achos chi’n gorfod gweithio gyda chynhyrchydd a cyfarwyddwr a golygydd sgript , felly chi’n sgwenni un drafft, a wedyn wrth gwrs chi’n cael tri set o nodiadau, chi’n sgwenni draft arall, wedyn chi’n cael set mwy o nodiadau, a mae pob un pennod o parch, wedi mynd trwy rhyw saith neu wyth drafft cyn cyrraedd y peth gorffenedig, felly dwi’n meddwl bod chi’n gorfod derbyn gyda teledu, bod chi yn gorfod newid eich stori tro ar ôl tro ar ôl tro, iddo fe wella cyn iddo fe fod mor dda a allai fod. Mae’n broses fwy anodd dwi’n meddwl yn bersonol o rhan, eich gwaith chi, a disgyblaeth ond ar y llaw arall pan chi’n dechrau gweithio gydag actorion a chi’n dechrau gweld y cynhyrchiad yn dod at ei gilydd, maen llawer mwy cyffroes na sgwenni nofel achos mae eich cymeriadau chi yn troi mewn i bobol go iawn.”

Ar gyfer ei chymeriadau yn Parch, eglurodd Fflur ei bod yn ysgrifennu synopsis ac yn siarad efo’r actorion i ddod i nabod nhw ar gyfer datblygu ei cymeriadau: “Nes i ysgrifennu synopsis i ddisgrifio y cymeriad Myfanwy a gan gastio Carys Eleri, a wedyn wnes i siarad mwy efo Carys i ddod i nabod hi yn well, a dechrau meddwl am pa fath o gymeriad allai hi fod yn seiliedig hefyd a’r math o actores yw Carys.” Wrth wneud hyn gwnaeth popeth ddod at ei gilydd a gwnaeth datblygu’r sgript i weithio efo’r actorion.

Pan gofynnodd am drydydd gyfres o Parch dywedodd: “Ni’n gobeithio byddwn yn datblygu trydydd cyfres ar hyn o bryd.”

Ysgrifennodd hi y ffilm Y Llyfrgell ac mae wedi cael ei enwebi am ‘Debut Screenplay’ yn y British Independent Film Awards: “Mae’r ffilm Y Llyfrgell newydd fod yn sinemâu, a mae’r ffilm wedi cael ei anweddi ar gyfer gwobrau yng ngŵyl ffilm Caeredin a gŵyl ffilm Waldenburg yn yr Almaen a ni’n gobeithio bydd y ffilm yn teithio ym mhellach dros y mis neu ddau nesa i wledydd eraill. Rwyf wedi cael enwebiad, y British Independent Film Awards ar gyfer ‘Debut Screenplay’.”

Eglurodd y broses o beth wnaeth i gael y ffilm i weithio ac beth sydd angen i’w wneud: “Gwnaeth y ffilm fynd drwy rhyw 50 neu 60 draft a gyda ffilm chi’n cael llawer o bobol wahanol i ariannu’r ffilm. Mae pob ariannwr yn credi rhywbeth gwahanol ynglŷn a beth ddylai’r stori fod, felly mae rhaid i chi fod yn eitha parod i dderbyn beirniadai i newid eich meddwl ynglŷn a beth ddylai’r stori fod. Gwnaeth cymryd chwech blynedd i fi, i orffen y ffilm, o’r dechrau i’r diwedd, mynd trwy lot o ffyrdd gwahanol o ddweud y stori ond fi’n credi beth syn dda ym myd ffilm os i chi yn gallu cael gafael mewn cynhyrchydd neu gyfarwyddwr da sydd yn fodlon gweithio’n agos gyda chi achos wedyn chi’n teimlo bod chi’n dîm a bod y person yna yn credu yn eich gweledigaeth chi a bod nhw eisiau i’r ffilm fod yn beth i chi eisiau iddo fod.”

Rhoddodd ychydig o gyngor i bobl sydd yn ysgrifennu llawn amser: “Mae rhaid i chi fod yn barod i weithio ar draws blatfformau gwahanol os i chi eisiau fod yn awdur llawn amser achos nes i ddechrau ysgrifenni rhyddiaith a mae rhyddiaith yn broses araf, felly pan wnes i ddechrau ysgrifennu am sgrin ar gyfer teledu dwi’n teimlo bod fi mor brysur bo rhaid i fi sgwenni bob dydd a mae hynna ymarfer da iawn, i unrhyw awdur, i sgwenni bob dydd. Nes i hefyd dechrau fel newyddiadurwraig yn ysgrifennu erthyglau i’r Big Issue, ac ar gyfer papurau. Mae’n dda os i chi gallu gwneud tymer bach o pob peth.”

Gan bod cymdeithas wedi newid a mae technoleg wedi cael dylanwad ar y ffordd rydym yn darllen llyfrau ond mae Fflur yn annog ei phlant i ddarllen a maent yn mwynhau darllen, dywedodd: “Dwi’n annog y merched i eistedd lawr gyda llyfr a mwynhau creu straeon eu hunain. Mae’n bwysig iawn ein bod yn dal yn rhoi mwynhad i blant bach o ddal llyfr yn ei llaw nhw a bod yn gyffroes am lyfrau. Dwi’n meddwl mae rhaid i ni annog plant i ddechrau’n araf gyda darllen.”

Yn y dyfodol maent yn gobeithio datblygu ffilm arall efo Euros Lyn a ysgrifennu nofel arall a hefyd i ysgrifennu drama lwyfan a mae’n datblygu syniadau ar y funud.

Author