Home » Mobile library services put in place for Cross Hands
Community Top News Uncategorised

Mobile library services put in place for Cross Hands

OPTIONS are being explored for a temporary home for Cross Hands Library, pending a proposed permanent move to a purpose-built facility within the town.

The library will leave its current home at the Cross Hands Cinema building during December following expiry of a lease agreement.

Services will be provided from Carmarthenshire County Council’s mobile library from Saturday, December 7, until a new temporary premises is found.

It will provide a comprehensive range of reading materials along with iPad access to online services and will operate during existing Cross Hands library hours – 10am-5pm Mondays and Thursdays, and 10am-1pm on Saturdays.

The council said it welcomes suggestions from members of the public and businesses about a temporary solution.

Longer-term, there are proposals for the library to be permanently based at a new Health and Wellbeing Centre planned for the Cross Hands area.

Ian Jones, Carmarthenshire County Council’s Head of Leisure, said: “We would like to thank people for their understanding whilst we work towards the permanent provision of a modern, fully-equipped, and purpose-built library service within the Cross Hands area.

“We will shortly be leaving our current home at Cross Hands Cinema, and thank the trustees for welcoming us over the last few years.

“Our mobile library service will be operating in the area from late December, offering a good range of reading and audio material, as well as digital access for our customers.”

The current provision at Cross Hands Cinema will come to an end on December 7.

online casinos UK

For further information, email [email protected] or call 01269 598360.

Gwasanaethau llyfrgell teithiol ar waith yn Cross Hands

MAE opsiynau’n cael eu hystyried ar gyfer cartref dros dro i Lyfrgell Cross Hands, hyd nes y gwireddir y bwriad i symud yn barhaol i gyfleuster pwrpasol yn y dref.

Bydd y llyfrgell yn gadael ei chartref bresennol yn adeilad Sinema Cross Hands yn ystod mis Rhagfyr ar ôl i gytundeb prydles ddod i ben.

Bydd gwasanaethau’n cael eu darparu o lyfrgell deithiol Cyngor Sir Caerfyrddin o ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr, hyd nes y bydd safle dros dro newydd yn cael ei ganfod.

Bydd yn darparu amrywiaeth gynhwysfawr o ddeunydd darllen ynghyd â mynediad i iPad i gyrchu gwasanaethau ar-lein. Bydd yn gweithredu yn ystod oriau presennol llyfrgell Cross Hands, sef rhwng 10am a 5pm ar ddydd Llun a dydd Iau, a rhwng 10am ac 1pm ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd y cyngor ei fod yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd a busnesau ynghylch ateb dros dro.

Yn y tymor hir, mae cynigion ar gyfer lleoli’r llyfrgell yn barhaol mewn Canolfan Iechyd a Llesiant newydd sy’n cael ei chynllunio ar gyfer ardal Cross Hands.

Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin: “Hoffem ddiolch i bobl am eu dealltwriaeth wrth inni weithio tuag at ddarparu gwasanaeth llyfrgell pwrpasol a pharhaol sy’n fodern ac yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol, a hynny yn ardal Cross Hands.

“Cyn bo hir byddwn yn gadael ein cartref presennol yn Sinema Cross Hands, a hoffem ddiolch i’r ymddiriedolwyr am ein croesawu ni dros y blynyddoedd diwethaf.

“Bydd ein gwasanaeth llyfrgell teithiol yn gweithredu yn yr ardal o ddiwedd Rhagfyr, gan gynnig amrywiaeth dda o ddeunydd darllen a sain, yn ogystal â mynediad digidol i’n cwsmeriaid.”

Bydd y ddarpariaeth bresennol yn Sinema Cross Hands yn dod i ben ar 7 Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01269 598360.

Author

Tags