
MAE STAFF a myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr yn paratoi i gynrychioli Cymru, Llanelli, a’r coleg yng Ngŵyl Pruneaux yn Ffrainc.
Yn dilyn gefeillio trefi Llanelli ac Agen mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanelli, mae myfyrwyr yn cael cyfle i deithio i’r ŵyl i brofi eu sgiliau gan werthu cynhyrchion lleol mewn marchnad gourmet ynghyd â gefeilldrefi eraill o’r Almaen, Sbaen ac America.
Eleni, mae Megan Wanless, sy’n brentis ar raglen Treftadaeth Ddiwylliannol y coleg, yn edrych ymlaen at fynd.
Bydd y profiad yn cyfoethogi ei hastudiaethau diwylliannol wrth iddi gael ei thrwytho yn yr ŵyl flynyddol sy’n gweld miloedd o bobl o bob rhan o Ewrop yn tyrru i ddathlu ffrwyth emblematig Agen.
Llynedd aeth myfyrwyr yr adran teithio a thwristiaeth i’r ŵyl a chawsant eu gwahodd i ddigwyddiadau megis i gyngerdd awyr agored ac i wylio gêm rygbi rhwng Agen a Toulouse.
Meddai Jodie Pinnell, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Sir Gâr: “Gweithion ni mewn gwres o 35 gradd mewn gŵyl brysur a bywiog am oriau hir ac roedd yn brofiad gwaith a diwylliannol gwych.
“Rydym yn ymfalchïo yn ymrwymiad ein myfyrwyr a’r proffesiynoldeb roedden nhw’n ei ddangos.”
Ychwanegodd Patrick Connery, sy’n fyfyriwr teithio a thwristiaeth: “Uchafbwynt y daith i mi oedd cyfarfod â’r Ffrancwyr lleol a datblygu fy sgiliau iaith, ac roedd cael profi pethau newydd a chyffrous yn llawer o hwyl.”
Cynhelir yr ŵyl yn ystod gŵyl banc mis Awst a gobeithir y bydd cryfder y cysylltiadau ag Agen yn parhau. Mae hyn wedi bod o fudd i fyfyrwyr o ran rhaglenni cyfnewid, gan gynnwys lleoliadau ac o ganlyniad mae myfyrwraig o Agen, Victoria Dousse, yn astudio am gymwysterau Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr.
Add Comment