Home » Y Gweinidog Addysg yn croesawu Adroddiad rhagorol Ceredigion gan Estyn
Uncategorized

Y Gweinidog Addysg yn croesawu Adroddiad rhagorol Ceredigion gan Estyn

Y GweinidogMAE’R GWEINIDOG Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi croesawu’r adroddiad ‘”Rhagorol” a roddwyd i awdurdod lleol Ceredigion gan Estyn. Galwodd hefyd ar i awdurdodau lleol ledled Cymru ddilyn eu hesiampl.

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd dyfarnwyd graddau rhagorol i’r awdurdod lleol mewn meysydd sy’n cynnwys arweinyddiaeth, cynhwysiant cymdeithasol a lles disgyblion, cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a gweithio mewn partneriaeth. Nodwyd hefyd mai cyfraddau presenoldeb ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd Ceredigion oedd yr uchaf yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog: “Dyma adroddiad gwych i’r system addysg yng Nghymru a charwn longyfarch yr athrawon, yr ysgolion ac awdurdod lleol Ceredigion yn bersonol am yr holl waith a wnaed ganddynt yn codi safonau ac anelu at ragoriaeth. Mae’r hyn a wnaethant yn tystio i’r ffaith bod y gwelliannau sydd angen eu cyflwyno yn ein hysgolion o fewn ein cyrraedd.

“Rwy’n cydnabod bod anghenion ac amgylchiadau pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wahanol ond, o ran y meysydd lle mae angen gwella, mae Ceredigion yn arwain y ffordd.

“Mae’n amlwg felly bod arweinyddiaeth o’r radd flaenaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Arweinyddiaeth ar y lefelau uchaf o fewn y cyngor ac arweinyddiaeth yn ysgolion Ceredigion. Hynny, ynghyd â’r sylw parhaus ar les a chyflawniad disgyblion, sydd wrth wraidd llwyddiant a pherfformiad yr awdurdod lleol.

“Yr her i bawb ohonom nawr yw gweld lle gallwn ddysgu o esiampl Ceredigion a sicrhau ein bod yn rhannu’r arferion gorau mor eang ag y bo modd – rhwng ysgolion â’i gilydd, rhwng awdurdodau â’i gilydd a rhwng consortia â’i gilydd.”

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i Geredigion.O’r pymtheg dyfarniad a nodwyd yn yr adroddiad, rwyf wrth fy modd i weld bod Ceredigion yn rhagorol mewn 11 ohonynt ac yn dda mewn 4. Rwy’n credu bod hyn yn arwydd clir o ansawdd y ddarpariaeth a gyflwynir yma yng Ngheredigion gan dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol dan arweiniad Eifion Evans (y Cyfarwyddwr Strategol) ac Arwyn Thomas a Barry Rees (y Penaethiaid Gwasanaeth). Mae hefyd yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar ymrwymiad Cynghorwyr Ceredigion sydd wedi pennu Addysg fel un o’n meysydd blaenoriaeth o bwys.”

Dywed yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Hag Harries, “Rwy’n teimlo’n hynod falch o’r adroddiad hwn, yn enwedig am ei fod yn cydnabod yr ymdrech sylweddol a wnaeth y tîm i sicrhau’r dyfarniad. Mae cynghorwyr a staff Ceredigion wedi gweithio’n ddiflino dros nifer o flynyddoedd i gyrraedd y safon uchel hwn o wasanaeth. Un ffactor sy’n arbennig o ddymunol i mi yw ein bod yn gallu dangos lefelau uchel o berfformiad ym mhob un o’r cyfnodau addysg.”

Author