Home » Maniffesto ar gyfer y celfyddydau traddodiadol
Cymraeg

Maniffesto ar gyfer y celfyddydau traddodiadol

welshgHWN YW’R cam cyntaf mewn ymgynghoriad a fydd yn para blwyddyn. Yn y lle cyntaf bydd Trac yn gofyn i chi i ddweud wrthynt beth ‘rydych yn teimlo sy’n bwysig, a beth y dylid ei wneud. Y cam nesaf fydd galw ar bawb sy’n teimlo angerdd am y celfyddydau traddodiadol i ddod at ei gilydd i gynhadledd yn yr hydref. Dyna pan fyddant yn cyd-gysylltu eich gweledigaeth a chreu cynllun gweithredu ar y cyd.

Chi yw’r sector. Os ‘rydych yn darllen hwn mae’n debyg eich bod yn gerddor, yn ddawnsiwr, yn ganwr, yn storïwr, yn aelod o gôr, yn aelod o fand pentre, yn hyrwyddwr, yn glwb gwerin, yn gymdeithas neu’n berson sy’n poeni am ein cerddoriaeth a sydd am ei gweld yn ffynnu. Efallai eich bod yn dad sydd am ddysgu caneuon i’w canu i’w fabi, neu’n fam sydd am basio ‘mlaen ei gallu ar y ffidl i’w phlentyn. Efallai eich bod yn athro sydd am gyflwyno cerddoriaeth draddodiadol mewn ysgolion, neu’n berson sydd am wrando ar ragor o gerddoriaeth werin yn ein theatrau.

Rhowch wybod i Trac beth ‘rydych am weld yn digwydd!

Rhannwch eich gweledigaeth am gerddoriaeth draddodiadol gyda Trac. Gall hyn fod yn unrhywbeth ‘rydych yn teimlo angerdd yn ei gylch: timau dawns, Cerdd Dant, cyfleoedd i ddysgu neu i fod yn rhan o Blygain neu sesiwn. Gall hyn fod yn weledigaeth hir-dymor am gynhwysiant cymdeithasol neu’n ganu fel gweithgaredd gymunedol.

Wrth i Trac dderbyn eich sylwadau, byddant yn eu postio ar ein gwefan. Os ‘rydych am fod yn ddi-enw, rhowch wybod iddynt. Bydd yr holl sylwadau hyn yn llywio’u cais at Gyngor Celfyddydau Cymru, a byddant hefyd yn postio hwn ar lein.

Bydd angen yr wybodaeth erbyn canol nos, dydd Sul Mai 3ydd 2015 er mwyn i Trac allu rhoi trefn arni erbyn dyddiad cau yr adolygiad ar Fai 21ain 2015.

Yn yr hydref mae Trac yn bwriadu galw’r sector cyfan at ei gilydd mewn cynhadledd benwythnos; yn y gynhadledd byddir yn ystyried y maniffesto ac yn adeiladu strategaeth ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol Gymreig fel bod modd gwau’r themâu hyn ynghyd yn gynllun gweithredu y gall y sector cyfan gydweithio tuag ato.

Felly rhowch wybod beth ‘rydych ei angen.

 

Author