Home » Cyhoeddi arlwy cyngherddau’r Eisteddfod
Cymraeg

Cyhoeddi arlwy cyngherddau’r Eisteddfod

Radio Glangwili: The first broadcast was on Christmas Day in 1972.

GYDAG ychydig dros 100 diwrnod i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, cyhoeddwyd manylion y cyngherddau nos a

Ddim yn hir i fynd!
Ddim yn hir i fynd!

gynhelir yn y Pafiliwn ar y Maes yn ystod yr wythnos.

Mae pob math o artistiaid yn perfformio ar y llwyfan eleni, gyda phwyslais pendant ar amrywiaeth ac adloniant. O berfformiad cyntaf sioe newydd sbon Cwmni Theatr Maldwyn i gig arbennig sy’n arddangos y sîn werin yng Nghymru heddiw, a bydd cyfle hefyd i fwynhau cerddoriaeth ffilm a theledu o bob math, heb anghofio’r Noson Lawen sydd wedi bod yn hynod boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Dyma’r manylion: Nos Wener 31 Gorffennaf – Cwmni Theatr Maldwyn yn cyflwyno Gwydion: Cyfle i fwynhau sioe wreiddiol newydd sbon gan Derec Williams, Penri Roberts a Gareth Glyn. Gan arbrofi gyda’r technegau goleuo diweddaraf, mae’r sioe hon yn sicr o fod yn brofiad gweladwy a chlywadwy arbennig iawn, gyda digonedd o ganeuon cofiadwy. Tocynnau oedolion o £15 i £20.

Nos Sadwrn – Croeso Corawl!: Elin Fflur, Joshua Mills, Bois y Steddfod a chorau cymunedol yr ardal, a cherddorfa gyfoes, dan arweiniad Jeffrey Howard, mewn cyngerdd arbennig sy’n sicr o apelio at bawb, gan gynnwys hen ffefrynnau, ambell gân newydd a medli arbennig i ddathlu cyfraniad Rhys Jones i fyd cerddoriaeth Cymru. Cefnogir y corau cymunedol a’r noson gan RWE Innogy UK. Tocynnau oedolion o £12-18.

Nos Sul – Cymanfa Ganu: Ymunwch gyda ni am noson o ganu cynulleidfaol nos Sul yn y Pafiliwn. Tocynnau – £10.

Nos Lun – Noson Lawen Maldwyn a’r Gororau: Ifan Jones Evans yn cyflwyno Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Côr Godre’r Aran, Cantorion Colin Jones, Linda Griffith, Plethyn, Eilir Jones, Steffan Harri, Ieuan Jones, Tri Tenor Trefaldwyn, Aeron Pughe, Meilir Jones a Huw Tudur Pughe, Sorela ac Ysgol Theatr Maldwyn. Tocynnau oedolion o £12-18.

Nos Fawrth – Gwerin: Plu, Calan, Arfon Gwilym, Sioned Webb, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Robin Huw Bowen, Stephen Rees, 9Bach Bach a Georgia Ruth gyda Siân James yn Gyfarwyddwr Artistig a Geraint Cynan yn Gyfarwyddwr Cerdd. Cefnogir y noson gan Gronfa Arwyn TÅ· Isaf. Tocynnau oedolion o £12-18.

Nos Iau – Cerddoriaeth Ffilm a Theledu: Owen-Jones, Côr CF1, Luke McCall a Rhian Lois gyda Cherddorfa John Quirk gyda cherddoriaeth gofiadwy sy’n sicr o hudo’r gynulleidfa i fyd y ffilmiau a theledu. Tocynnau oedolion o £12- 18.

Nos Fercher a Nos Wener: Cynhelir nosweithiau o gystadlu yn y Pafiliwn, gan ddechrau am 18.30. Tocynnau – £10.

online casinos UK

Meddai’r Trefnydd, Elen Elis, “Rwy’n credu bod y cyngherddau eleni ymysg y mwyaf amrywiol eto, gyda rhywbeth i bawb. Mae’r gerddoriaeth yn mynd i apelio at gynulleidfa hynod o eang – gyda phob math o arddulliau, o gorawl i werin, ffilm a theledu. Mae’r Noson Lawen yn llawn o berfformwyr o bob math ac yn sicr o fod yn noson dda, ac wrth gwrs, cawn gyfle i glywed ein corau cymunedol sydd wedi bod yn ymarfer mor galed drwy’r gaeaf mewn cyngerdd corawl fydd yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi’i weld ar lwyfan y Pafiliwn dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw i fwynhau’r arlwy, a gobeithio y byddwch chithau a phobl o bob rhan o Gymru hefyd yn edrych ymlaen i ddod atom i Feifod o 1-8 Awst eleni. Fe welwn ni chi yno!”

Author