NEWYDDION syfrandol ecscliwsif i’w ddatgelu’r wythnos hon. Mae’r newyddion yn dal i ddod i law wrth i fi ysgrifennu. Dwi’n whys drabŵd. Dwi’n siŵr y bydd pawb ohonoch am fod yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn, Gorff ennaf 25. Pam? Wel, prif ddigwyddiad dathlu ail-agor Castell Aberteifi gwlei. Gwariwyd dros £12m o’ch arian chi a fi ar ei adfer ac mae Ymddiriedolaeth Cadwgan, sy’n gofalu amdano ar ein rhan, wedi trefnu sbloet ysblennydd. Rhaid diolch iddyn nhw am eu gweledigaeth. Tua hanner dydd bydd yr Archdderwydd, ar gefn march buddugol Dydd Sadwrn Barlys, yn arwain gorymdaith o gannoedd trwy strydoedd y dref. Chwarae teg i’r trefnwyr feddwl am gyfuno dau draddodiad hynafol sy’n gysylltiedig â’r dref.
Gŵyr pawb ohonoch wrth gwrs mai castell Aberteifi yw crud yr Eisteddfod ers pan gynhaliodd y Tywysog Rhys ap Gruff udd yr eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani o fewn muriau ei gastell. Am fod Rhys wedi gwahodd cynrychiolwyr o’r gwledydd Celtaidd i gymryd rhan mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi gwneud yr un modd dros 800 mlynedd yn ddiweddarach. Wel, dyna’r cam amlwg. Mae’n debyg y bydd seiniau’r pibau, y bodhran, y delyn a’r bombard i’w clywed yn ystod yr orymdaith. Bydd cyngerdd mawreddog o fandiau gwerin yn cychwyn o fewn muriau’r castell yn gynnar yn y prynhawn. A sdim dowt yn nhafarne’r dre ‘fyd. Mae’r rhestr yn rhy faith i’w nodi fan hyn.
Ond mae Calan, 9Bach a Mabon ymhlith y prif grwpiau o Gymru, Alan Stivell o Lydaw a bydd Ryland Teifi yn arwain y Gwyddelod yn cynnwys yr enwog Clancys. Bydd yna seremoni arbennig yn cael ei harwain gan y Gorseddigion hefyd wedi’i llunio’n benodol ar gyfer yr achlysur. Deallwn fod y prifardd lleol, Ceri Wyn, wedi derbyn comisiwn i gyfansoddi cerdd ar gyfer yr achlysur. Mae’n siŵr y bydd yna Dalyrna dychryn daear. Diolch i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth. Deallaf hefyd – ac mae’n anodd credu hyn – ond comisiynwyd Karl Jenkins o Benclawdd i gyfansoddi gwaith cerddorol mawreddog i gyfl eu ysbryd yr oesoedd o fewn y castell. Deallaf fod Ar Ôl Tri, corau Islwyn Evans a Buddug Verona James, ymhlith eraill o’r cyfoeth o dalentau lleol, wrthi fel lladd nadroedd yn ymarfer.
Bydd y perff ormiad gyda cherddorfa lawn yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C. Rhaid diolch i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth eithriadol. Mae myrdd o ddigwyddiade ymylol ar y gweill hefyd a chyrff cenedlaethol yn cyfrannu at y dathlu. Cadarnhaodd Dylan Iorwerth y bydd rhifyn arbennig o Golwg yn cael ei gynhyrchu yn llawn o newyddion 1176 ‘er mwyn cyfl eu ysbryd yr oes’ meddai. Bydd hanner tudalen o sbloet yn y Teifi seid. Mae neges yn dod i law’r funud hon yn dweud fod y Theatr Genedlaethol wedi comisiynu drama gan Caryl Lewis i’w pherff ormio yn yr awyr agored. Mae’n debyg mai ‘Cadwgan’ yw enw’r cynhyrchiad. Ac mae Rhys Ifans yn chwarae’r brif ran. Mae Mathew Rhys a Ioan Gruff udd yno’n rhywle ‘fyd. Mae’n anodd credu fod gan Ymddiriedolaeth Cadwgan y fath ddychymyg.
Wel, wel, ar ben hynny mae Danny Boyle wedi’i gyfl ogi i drefnu uchafbwynt gwir ysblennydd i’r diwrnod yn llawn goleuadau a phasiant a chyff ro ac emosiwn a fydd yn cydio yn y dref gyfan. Bydd yr afon wedi’i goleuo. Bydd ffl otilla o fadau’n hwylio heibio yn llawn cerddorion Celtaidd. Bydd Danny Boyle yn trefnu eogiaid Teifi i neidio ar draws y dŵr a mwy. Ac yn gopsi ar y cwbwl clywir llais Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’. ‘Dyna fydd coron fy ngyrfa’, meddai Dafydd. Ni chredaf y bydd Aberteifi ’n cysgu’r noson honno. Deallir y bydd Iolo James a’r grŵp, Y Ffug, yn canu ‘Anghofi wch Dryweryn’ cyn i Ddafydd ei morio hi. Mae Iolo yn arddel yr un agwedd heriol ag oedd gan Dafydd pan oedd yntau’n ifanc. Trannoeth bydd y Parch Ddr Guto Prys ap Gwynfor yn pregethu yng Nghapel Mair. Ei destun fydd ‘Pa beth yr aethom allan i’w achub?’. A bydd Dewi Pws yn bysgio ar Sgwâr Ffi nsh. Ni ellir diolch digon i Ymddiriedolaeth Cadwgan am eu gweledigaeth. Mae’n rhaid bydd Gŵyl Cadwgan yn marchnata ei hun. Bydd y dvd a wneir o’r achlysur yn gwerthu fel slecs i ymwelwyr yr ‘high end heritage market’. Cewch wybod mwy gen i am y trefniade yr wythnos nesaf oni bai y bydd rhywun wedi fy mhinso ar ddihun.
Add Comment