Home » Range of topics for safeguarding week
Community

Range of topics for safeguarding week

Hazardous co-sleeping with infants and adults who self-neglect are among topics for discussion highlighted in National Safeguarding Week in Mid and West Wales which runs from next Monday (November 4).
A wide-ranging programme is taking place throughout the week across Pembrokeshire, Ceredigion, Carmarthenshire and Powys including conferences, engagement events and workshops.
The programme has been co-ordinated by CWMPAS and CYSUR, the Mid and West Wales Regional Safeguarding Board.
A highlight of the week is the Board’s annual conference at Pembrokeshire College in Haverfordwest on Thursday, 14 th
November.
The keynote address is being delivered by Dr Eileen Munro, Emeritus Professor of Social Policy at the London School of Economics.
Dr Munro is the author of the Munro Review of Child Protection – a child-centred system which made a number of recommendations to
reform the child protection system from being over-bureaucratised to one that keeps a focus on the child.
The conference will highlight key achievements across the region in implementing the Signs of Safety approach to working with families.
Signs of Safety is a more inclusive, solution-focused approach which encourages families to find their own solutions to the challenges they
may be experiencing.
During the week, the Safeguarding Board will also seek to raise awareness of circumstances in which co-sleeping becomes unsafe,as well as the dangers of self-neglect and hoarding.
Technology will also be a theme as the Board formally launches its newly designed website and enhanced social media presence in order to improve awareness of its work and functions.
The new All-Wales Protection Procedures is also due to launch while Dyfed Powys Police will follow a comprehensive programme of activities to engage schools and communities, focussing on a variety of themes such as sexting, cyber-crime and exploitation.
Other events taking place in Pembrokeshire include the Junior Safeguarding Conference during which secondary school pupils will receive a safeguarding module devised by Pembrokeshire’s Safeguardians.
There will also be a County Lines workshop to be facilitated by Fearless, a branch of Crimestoppers.
Carmarthenshire County Council will be facilitating consultation with partner agencies to finalise the draft regional self-neglect policy.
Hywel Dda University Health Board will also hold a Learning Event related to this theme as part of Safeguarding Week activities.
Events taking place across Powys include the formal launch of new procedures relating to deprivation of liberty safeguards, as well as training across Health Boards on a range of adult safeguarding issues delivered jointly with Trading Standards and Police.

TESTUNAU AMRYWIOL AR GYFER YR WYTHNOS
DDIOGELU

Mae cyd-gysgu peryglus gyda babanod, ac oedolion sy’n hunan-esgeuluso ymhlith testunau i’w trafod y tynnir sylw atynt yn yr Wythnos Ddiogelu Cenedlaethol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy’n rhedeg o ddydd Llun nesaf (4 Tachwedd).
Mae rhaglen eang yn cael ei chynnal trwy gydol yr wythnos ledled Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys yn cynnwys cynadleddau, digwyddiadau ymgysylltu a gweithdai.
Cydgysylltwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos yw cynhadledd flynyddol y Bwrdd yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd ddydd Iau, 14 Tachwedd.
Cyflwynir y prif anerchiad gan Dr Eileen Munro, Athro Emeritws Polisi Cymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain.
Dr Munro yw awdur Munro Review of Child Protection – a child-centred system, a wnaeth nifer o argymhellion i ddiwygio’r system amddiffyn plant o fod yn system or-fiwrocrataidd i un sy’n cynnal ffocws ar y plentyn.
Bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at y prif gyflawniadau ar draws y rhanbarth o ran gweithredu’r ymagwedd Arwyddion Diogelwch wrth weithio gyda theuluoedd.
Mae Arwyddion Diogelwch yn ymagwedd fwy cynhwysol, yn canolbwyntio ar atebion, sy’n annog teuluoedd i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i’r heriau y gallant fod yn eu hwynebu.
Yn ystod yr wythnos, bydd y Bwrdd Diogelu yn mynd ati hefyd i gynyddu ymwybyddiaeth o amgylchiadau lle mae cyd-gysgu yn anniogel, yn ogystal â pheryglon hunan-esgeuluso a chelcio.
Bydd technoleg yn thema hefyd wrth i’r Bwrdd lansio’i wefan yn ffurfiol ar ei newydd gwedd, ynghyd â gwell presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’i waith a’i swyddogaethau.
Bydd fersiwn newydd Gweithdrefnau Amddiffyn Cymru Gyfan yn cael ei lansio hefyd, a bydd Heddlu Dyfed Powys yn dilyn rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o themâu fel secstio, seiberdroseddu a chamfanteisio.
Mae digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn Sir Benfro yn cynnwys y Gynhadledd Diogelu Plant Iau lle bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn modiwl diogelu a ddyfeisiwyd gan Warchodwyr Sir Benfro.
Hefyd, bydd gweithdy Llinellau Cyffuriau yn cael ei gynnal gan Fearless, sef cangen o Crimestoppers.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn hwyluso ymgynghoriad gydag asiantaethau partner i roi’r wedd derfynol ar y polisi hunan-esgeuluso rhanbarthol drafft.
Hefyd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal Digwyddiad Dysgu yn gysylltiedig â’r thema hon fel rhan o weithgareddau’r Wythnos Ddiogelu.
Mae digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Powys yn cynnwys lansio gweithdrefnau newydd yn ffurfiol yn ymwneud â threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, yn ogystal â hyfforddiant ar draws
Byrddau Iechyd ar amrywiaeth o faterion diogelu oedolion a gyflwynir ar y cyd â Safonau Masnach a’r Heddlu.

Author