Home » Achlysur mwyaf blwyddyn Y Beibl Byw
Cymraeg News

Achlysur mwyaf blwyddyn Y Beibl Byw

Screen Shot 2016-07-28 at 11.59.11BU’R SUL SBESIAL yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin ers naw mlynedd. Mae’n cael ei gynnal ar yr ail Sul o Orffennaf mewn gwahanol ran o’r Cyfundeb, gyda’r rhan fwyaf o’r eglwysi yn cau y Sul hwnnw. 

Ond eleni, am y tro cyntaf, fe drefnwyd y Sul Sbesial ar y cyd gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid ar draws Sir Gâr – a hynny yn neuadd Ysgol Gyfun Bro Myrddin ar gyrion tre Caerfyrddin.

Bu’r ymateb yn ysgubol, gyda thua 700 o bobl yn llanw’r neuadd.

Roedd yr achlysur yn un bywiog a chyfoes. Ar ôl agor gydag emyn, cafwyd fideo am “Beibl Mari Jones yn dychwelyd i’r Bala” oddi ar Teledu Annibynwyr.

(I’w gweld, ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=kWLtCqAsRuI)

Cafwyd cyflwyniad bywiog gan bobl ifanc eglwysi’r Priordy a Heol Awst, o dan ofal y Parchg Beti-Wyn James. Roedd yn darlunio Iesu’n galw’i ddisgyblion o blith y pysgotwyr, ac yn cynnwys cân rap gan y merched!

Y gŵr gwadd oedd Arfon Jones (beibl.net). Cafodd pawb hwyl fawr wrth weld a chlywed dyrnaid o wirfoddolwyr o blith y plant lleiaf yn ei gynorthwyo i esbonio’r gwahaniaeth rhwng tywyllwch a goleuni. Arweiniodd hynny’n naturiol i mewn i neges Arfon am y modd y mae agor y Beibl yn dod â goleuni i’n bywydau ninnau, gan yrru allan y pethau tywyll sydd ymhob un ohonom. Gorffennodd gyda gweddi.

Band Penuel, Caerfyrddin fu’n cyfeilio i’r emynau (‘I Dduw fo’r Gogoniant’ a ‘Gair Disglair Duw’) o dan arweiniad y Parchg Aron Treharne, a wnaeth hefyd gyflwyno’r emynau cyn eu canu. Cafwyd gair o groeso gan y Parchg Guto Llywelyn a thraddodwyd y fendith gan y Parchg Ifan Roberts. Yna, roedd cyfle i bawb cael cwpaned cyn ymadael. Diolch i bawb fu’n trefnu, yn cymryd rhan, yn hwylio’r te ac yn hyfforddi’r plant. A diolch hefyd i Ysgol Bro Myrddin am agor ei ddrysau i’r Sul Sbesial.

Yn sicr, bu’r achlysur yn un teilwng iawn i nodi Blwyddyn y Beibl Byw o fewn un sir. Mae Arfon Jones yn siaradwr arbennig iawn. Cafodd pobl o bob oed yn y dorf fawr yng Nghaerfyrddin eu gwefreiddio ganddo. Beth am ei wahodd i’ch rhan chi o Gymru?

Author