Home » Dyn ei filltir sgwâr yn derbyn Cymrydoriaeth Anrhydeddus
Cymraeg News

Dyn ei filltir sgwâr yn derbyn Cymrydoriaeth Anrhydeddus

Gwobr: Jeff Thomas gyda’r Athro Medwin Hughes
Gwobr: Jeff Thomas gyda’r Athro Medwin Hughes

CAFODD Jeff Thomas, un o hoelion wyth y gymuned leol yng Nghaerfyrddin, ei anrhydeddu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystod un o’i seremoniau graddio 

Brodor o Ddyffryn Aman yw Jeff Thomas. Yn fab i löwr, mynychodd Ysgol Gynradd Glanaman ac Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, gan adael i weithio yn 16 oed i gefnogi’r teulu yn dilyn damwain lofaol a adawodd ei dad yn anabl. Ymunodd yn fuan â Gwasanaeth yr Heddlu, gan dreulio bron ei holl wasanaeth yn yr Adran Ymchwilio i Droseddau.

Dyrchafwyd ef yn Brif Dditectif Uwch-arolygydd a Phennaeth Heddlu Dyfed Powys, ac arweiniodd ymchwiliadau di-rif i lofruddiaeth. Roedd hefyd yn rhan o’r treial pedoffilaidd hwyaf yn y Deyrnas Unedig ar y pryd, a gweithrediad IRA a arweiniodd at ddod o hyd i storfa fawr o ffrwydron a drylliau. Ymddeolodd o wasanaeth yr heddlu yn y flwyddyn 2000.

Cred Jeff yn angerddol mai anghenion, barn ac ymdrechion dinasyddion a ddylai lunio cymunedau ac yn y cyswllt hwn mae wedi cymryd diddordeb brwd ym mywyd chwaraeon, diwylliannol, crefyddol a chymunedol Caerfyrddin, lle bu’n byw ers 30 mlynedd.

Mae’n hoff iawn o chwaraeon, a chwaraeodd rygbi dosbarth cyntaf i Abertawe ac ennill anrhydeddau rhyngwladol ar lefel dan 19.

Mae’n gwasanaethu yn ddiacon capel ers blynyddoedd lawer a bu’n Gadeirydd ar nifer o sefydliadau gan gynnwys y Clwb Rotari, Corff Llywodraethwyr Ysgol, Cymdeithas Rhieni ac Athrawon, Côr Meibion Caerfyrddin, Clwb Cinio Caerfyrddin a Chlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin. Mae hefyd yn gwasanaethu yn Gynghorydd Sir gan gynrychioli ward Tref Caerfyrddin. Ei gyfraniad mwyaf, heb os, oedd i glwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin lle bu’n allweddol o ran helpu i adeiladu eu cae i safle trwyddedig gan UEFA(safon Ewropeaidd) sy’n dal 3000 ac yn wir cafwyd llawer o gemau o’r fath yno. Roedd hefyd yn gyfrifol am ffurfio Academi Ieuenctid a Chanolfan Gymunedol y Clwb.

Mae gan yr Academi Ieuenctid bron dau gant o aelodau ar hyn o bryd ac mae’r Ganolfan Gymunedol yn lleoliad ffyniannus ar gyfer gweithgarwch cymunedol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar helpu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thlodi.

Dyn amryddawn yw Jeff ac mae wedi denu arian nawdd a hysbysebu, gan greu cyfanswm anhygoel, o’i ychwanegu at y cymorth grant, o dros £2 filiwn.

Wrth ei gyflwyno heddiw, dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is Ganghellor Cysylltiol Y Drindod Dewi Sant: “Mae angen catalyddion ar bob cymuned. Mae angen gweledyddion ar bob cymuned. Mae angen arweinyddion ar bob cymuned, unigolion sydd â’r ddawn o ysbrydoli eraill, o ddod â phobl at ei gilydd, o gynnig ci par yr hyn sy’n bosibl drwy gydweithio a chydgyfranogi. Y mae Jeff Thomas yn un o hoelion wyth y gymuned leol. Gweithreda’n dawel a chydwybodol. Y mae’n uchel ei barch yn wylaidd ac yn gwbl ddiymhongar ei anian.”

Meddai Jeff Thomas: “Mae gan y Brifsygol yma le anrhydeddus yn addysg ein gwlad ac rwy’n aml yn synnu cymaint o enwogion cenedlaethol a rhyngwladol a gafodd eu haddysg yn y Brifysgol hon mewn amryw fyd o wahanol feysydd, felly mae’n bleser o’r mwyaf derbyn yr anrhydydd o’r gymrydoriaeth hon gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”

online casinos UK

Y mae Jeff yn briod ag Eirlys ers 43 mlynedd ac mae ganddynt dri o blant, pob un ohonynt yn athrawon. Mae ganddynt wyth o wyrion a gobeithia Jeff mai’r rhain bellach fydd ei brosiect mwyaf gan y bwriada dreulio cymaint o amser ag y bo modd yn eu cwmni.

Author