Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg News

Cerddwyr Cylch Teifi

AR EIN taith fis Ionawr buom yn ardal Carreg Wen a Llechryd dan arweiniad Dyfed a Siân Elis- Gruffydd.

Gan ddechrau wrth Gapel y Bedyddwyr Cilfowyr, cerddon ni draw i bentref Carreg-wen i weld yr eglwys, ac wedyn i lawr y lôn i hen eglwys Maenordeifi ac wedyn Pont Llechryd ac yn ôl i’r man cychwyn. Fel y disgwylid, cawsom hanesion diddorol am y capel, yr eglwysi, y meini adeiladu a hynt Afon Teifi a dyffryn Teifi. Bu’n daith ddifyr iawn, ar lonydd pert yr ardal mewn tywydd da, a digon o gloncian wrth gerdded.

Fis Chwefror 11 awn i ardal Ffynonnau, Capelnewydd, gyda Howard Williams yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ) am 10:30yb; wrth y gro esffordd ar ochr Cenarth i Gapelnewydd, trowch oddi ar y B4332 i’r heol fach heibio i Blasty Ffynonnau am ryw filltir i gyrraedd y maes parcio. Bydd yn daith linynnol ryw 2½ milltir a dwy awr yn bennaf ar draciau da. Awn ni ar y llethrau uwchlaw Coed Ffynonnau trwy Gwm Blaen Bwlan cyn troi at y fferm Penrallty ac wedyn i Eglwys Sant Colman lle caiff gyrwyr gludiant yn ôl i’r man cychwyn. Bydd yr esgyniad yn gyfanswm o tua 400 troedfedd, braidd yn serth ar y dechrau ond yn raddol wedyn. Wrth gerdded, cawn hanes stad Ffynonnau, y goedwig a phlwyf Capel Colman, golygfeydd gwych dros y cwm tuag at Frenni Fawr a Frenni Fach, gan fwynhau naws anghysbell yr ardal. Wedyn, i’r rhai sydd eisiau, gallwn gymdeithasu yn Nhafarn y Nag’s Head, Aber-cuch.

Mawrth 11, Ffynnon Ofuned Trefdraeth fydd ein cyrchfan, gyda Reg Davies yn arweinydd. Byddwn ni’n gadael y Ganolfan i Ymwelwyr ar bwys maes parcio Heol Hir, Trefdraeth (SN 057 392; Cod post SA42 0TN) am 10:30yb. Bydd yn daith ddwy awr ond llai na dwy filltir, gylchog yn bennaf, ar heolydd tawel a llwybrau cyhoeddus. Awn ni i fyny o’r dref i gyfeiriad Carn Ingli, i gyrraedd Carn Cŵn a Ffynnon Binne yn ymyl y rhostir; wedyn i lawr ar heolydd gwahanol. Bydd tipyn o ddringo yn yr hanner cyntaf a gall rhannau bach fod yn llithrig. Fydd dim sticlau, a’r esgyniad fydd tua 350 troedfedd. Clywn am hanes ffynhonnau’r dref a’i chyflenwad dŵr, a grymoedd cudd Ffynnon Binne. Cawn fwynhau golygfeydd gwych dros y dref a blodau’r gwanwyn. Wedyn, gallwn gymdeithasu yn Blas at Fronlas neu VicNorth yn Heol y Farchnad.

Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson – 01239 654561 neu [email protected].

Dyddiadau’r Teithiau nesaf:

Chwefror 11: Ardal Ffynonnau, Capelnewydd. Gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ) am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams.

Mawrth 11: Ardal Trefdraeth. Gadael maes parcio Trefdraeth, Heol Hir . (SN 057 392) (Cod post SA42 0TN) am 10.30yb. Arweinydd: Reg Davies.

Ebrill 8: Llandudoch, taith arddwriaethol newydd. Gadael maes parcio Llandudoch (SN165 460) (Côd post SA43 3ED) am 10.30yb. Arweinwyr: Vanya Constant ac Ingrid Marcham.

Author