Home » Jonathan a’r criw yn dathlu dechrau’r Chwe Gwlad
Cymraeg

Jonathan a’r criw yn dathlu dechrau’r Chwe Gwlad

S4C’s Jonathan: Sarra Elgan Easterby, Jonathan Davies and Nigel Owens
S4C’s Jonathan: Sarra Elgan Easterby, Jonathan Davies and Nigel Owens

MAE PENCAMPWRIAETH y Chwe Gwlad ar fin dechrau ac mae hynny’n golygu un peth – mae Jonathan yn ôl! Gyda digon o dynnu coes, gwesteion a heriau, dyma’r ffordd berffaith i ddechrau eich penwythnos o rygbi.

Bydd y cyn-chwaraewr Cymru a’r sylwebydd Jonathan Davies yn dychwelyd i’w gadair goch ar S4C nos Wener (Chwefror 3), cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS ar ddydd Sul. Yn ymuno ag ef bydd y criw arferol – un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, Nigel Owens, ynghyd â’r cyflwynydd chwaraeon, Sarra Elgan Easterby.

Mae’r drindod yma wedi gweithio gyda’i gilydd am flynyddoedd ac yn hen gyfarwydd â thynnu coes ei gilydd. Ac mae Jonathan yn gwybod yn iawn sut i gael ymateb gan Sarra a Nigel!

“Mae hi’n hawdd tynnu coes y ddau, ond y ffordd rwydda’ i gorddi Sarra yw dweud rhywbeth am sut mae hi’n edrych,” meddai Jonathan Davies yn ddireidus. “A gyda Nigel, os bydda i’n ddweud ei fod wedi gwneud penderfyniad dyfarnu gwael, fe fydd e’n gandryll!”

Ond, yn ôl y cyflwynydd o Drimsaran, mae cyfres Jonathan yn cynnig llawer mwy na banter rhwng ffrindiau. “Ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw bod y gynulleidfa a’r gwesteion yn mwynhau eu hunain ac yn adrodd llwyth o straeon doniol, dyna beth sy’n goron ar y cyfan,” meddai Jonathan.

Ac maen nhw wedi cael eu siâr o enwau mawr yn y stiwdio dros y blynyddoedd, o’r dewin bach Shane Williams a’r chwaraewr chwedlonol Gareth Edwards i’r cyflwynydd teledu Gethin Jones a’r actor Richard Harrington.

Mae llawer mwy i ddod yn y gyfres newydd hon, ac yn ymuno â’r tîm ar gyfer y rhaglen gyntaf mae’r canwr Aled Jones a’r actores Ffion Dafis sy’n chwarae arweinydd y Cenedlaetholwyr, Rhiannon Roberts, yn y gyfres ddrama Byw Celwydd bob nos Sul ar S4C.

Ac yn nes ymlaen yn y Bencampwriaeth, bydd y cyflwynydd Sean Fletcher a’r ymladdwr cawell Brett ‘The Pikey’ Johns yn dod i sgwrsio, chwerthin a rhoi cynnig ar y gêm gicio ‘Ar y Pyst’! Byddwn hefyd yn clywed pa her fydd yn wynebu Shane Williams ar ‘Sialens Shane’ ac yn gweld faint o hafoc bydd y ‘Ryc a Rolwyr’ yn ei greu ar strydoedd Cymru.

Yng nghanol y miri, does dim osgoi’r rygbi, ac wrth sôn am y Chwe Gwlad mae Jonathan wastad yn edrych ymlaen at bob gornest. Er hynny, mae’n credu bod y gêm gyntaf yn erbyn yr Eidalwyr yn hanfodol i Gymru. “Os byddan nhw’n ennill y gêm gyntaf, fe wnaiff hynny roi llawer o hyder iddyn nhw ar gyfer gweddill y bencampwriaeth – a phwy a ŵyr beth all ddigwydd!”

Author