Home » Cyfradd llwyddiant y graddedigion yr uchaf erioed
Cymraeg News

Cyfradd llwyddiant y graddedigion yr uchaf erioed

YN YSTOD wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe gawn hanes difyr Cadair Eisteddfodol fydd yn mynd â ni ar daith o dde Ceredigion i gyfandir De America. 

Fe enillodd y diweddar fardd a ffermwr Dic Jones nifer o Gadeiriau Eisteddfodol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith ac Eisteddfod yr Urdd bum gwaith.

Ond un o’r Cadeiriau mwyaf gwerthfawr yn bersonol i un o feirdd mwyaf yn hanes llenyddiaeth Cymru oedd y gerdd ysgytwol a enillodd gystadleuaeth Cadair Eisteddfod Ganmlwyddiant Patagonia ym 1965.

Ac yn y rhaglen Cadair Dic Nôl i’r Gaiman nos Lun, 1 Awst, cawn glywed pam yr oedd y ffarmwr o fferm yr Hendre, Blaenannerch mor benderfynol bod pobl y Wladfa ym Mhatagonia, Yr Ariannin yn cael y Gadair yn ôl a chawn ddilyn taith ei deulu gyda’r Gadair i ardal y Gaiman.

Yng nghwmni ei weddw Jean Jones, ei fab, y cyflwynydd a’r cerddor Brychan Llŷr a’i ferch, yr actor a cherddor Delyth Wyn, cawn glywed hanes sut y cafodd y Gadair ei chludo ar long yr ‘Amazon’ o Rio de Janeiro, Brasil i borthladd Lerpwl, ar ei thaith i Gymru.

Ond calon y rhaglen yw dilyn hynt y Gadair wrth iddi ddychwelyd i Batagonia a chael lle anrhydeddus yn Amgueddfa’r Gaiman.

Fe wnaeth y daith adael argraff ddofn ar Jean Jones a chafodd groeso gan gymuned Gymraeg y Wladfa.

“Roedd Dic bob amser wedi dweud ei fod e eisiau gweld y Gadair yn mynd yn ôl i’r Wladfa ac roedd wedi addo hynny wrth un o Gymry Patagonia, Luned Gonzalez. Roedd pawb yn edrych yn syn arno pan ddywedodd e yn y lle cyntaf, ond rwy’n deall yn iawn nawr ar ôl bod yno achos bod y bobl yno’n gwerthfawrogi’r holl greiriau sydd ganddyn nhw.”

Ceri Wyn Jones, y Meuryn a’r prifardd, yw un o gyfranwyr y rhaglen a chawn glywed ganddo dipyn am gefndir “yr unig ffarmwr i’w ethol yn Archdderwydd”.

Yr hyn sy’n hynod am y gerdd fuddugol, yn ôl Ceri, yw bod Dic Jones wedi gallu cyfleu bywyd pobl y Wladfa ac yntau ddim wedi bod yno ar y pryd.

online casinos UK

“Does dim llawer o bobl yn gwybod hynny ond cerdd a weithiwyd arni ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1964 oedd hi,” meddai Ceri. “Teitl y gystadleuaeth oedd Patagonia a bu’n rhaid iddo fodloni ar ddod yn ail i’r bardd profiadol o Batagonia, R Bryn Williams.”

Author