Home » Cystadleuaeth Coginio Coleg Ceredigion
Cymraeg News

Cystadleuaeth Coginio Coleg Ceredigion

CAFWYD dydd Gwener anarferol a chyffrous ar gampws Aberteifi yn ddiweddar pan deithiodd myfyrwyr Arlwyo campws Aberystwyth i Fwyty Maes y Parc ar gampws y coleg yn Aberteifi i gwrdd a’u cyd-myfyrwyr Arlwyo i gymryd rhan mewn her goginio.

Ar gyfer y gystadleuaeth rhannwyd y myfyrwyr i dimau o ddau – un o bob campws. Roedd hon yn dipyn o her o gofio nad oedd y myfyr wyr wedi cwrdd o’r blaen heb son am gyd-weithio.

Roedd rheolau’r gystadleuaeth yn syml – rhoddwyd basged i bob tîm yn cynnwys y cynhwysion canlynol: brest cyw iâr, 1 cenhinen, 1 moronen, 50g o gaws, 1 pupur coch, 250g o fenyn, 400g o datws, 300ml o hufen, 50g o siocled, 1 oren ac 1 lemwn. Gan ddefnyddio’r cynhwysion o’i blaenau gofynnwyd i’r timau gyflwyno prif gwrs a phwdin. Cafodd y myfyrwyr awr i baratoi ac i ymchwilio cyn i’r her ddechrau gyda dwy awr a hanner i greu eu campweithiau.

Llwyddodd bob tîm gyflwyno pryd dau gwrs unigryw o fewn yr amser a osodwyd cyn i gyn ddarlithydd Arlwyo’r Coleg, Howard Powell, orfod wneud y penderfyniad anodd o ddewis enillwyr. Wrth feirniadu, dywedodd Howard Powell bod ‘pob pryd a gyflwynwyd heddiw o ansawdd uchel iawn, a phob pâr wedi creu prydau gwreiddiol a oedd yn dangos technegau coginio traddodiadol a modern’.

Ar ôl disgwyl yn nerfus am y canlyniad, cyhoeddwyd taw Ffion Bankes o gampws Aberystwyth ac Erin Buckland o gampws Aberteifi oedd yr enillwyr ac fe’u cyflwynwyd gyda chit garnisio proffesiynol â thaleb gwerth £20. Y prydau buddugol oedd cyw iâr wedi ei ffrio gyda llenwad o gaws a’i orchuddio gyda briwsion bara, sglodion wedi eu coginio ddwywaith gyda saws bernais a phei lemon meringue unigol gyda hufen Chantilly i bwdin.

Mae’r coleg yn ddiolchgar i Nisbets am eu haelioni yn noddi’r gystadleuaeth. Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus dros ben a’r gobaith yw gwneud rhywbeth tebyg eto yn y dyfodol agos

Author