Home » Fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg
Cymraeg

Fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg

MEWN digwyddiad arbennig mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu’r newyddion bod y nifer uchaf erioed o’i myfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon mae 67 o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr wedi derbyn un o ysgoloriaethau’r Coleg. Er mwyn nodi’r llwyddiant hwn cynhaliwyd seremoni arbennig yn y brifysgol er mwyn cyflwyno tystysgrifau i’r myfyrwyr llwyddiannus.

Mewn cydweithrediad â’r Coleg mae’r brifysgol a Choleg Sir Gâr wedi buddsoddi’n helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r newydd mewn meysydd megis Celf a Dylunio, Amaethyddiaeth, Astudiaethau Chwaraeon, Busnes, Blynyddoedd Cynna r, Gwaith Ieuenctid a Chymuned ac Astudiaethau Crefydd. Bellach mae’r rhan fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg y Drindod Dewi Sant yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn bod cynifer o’n myfyrwyr wedi llwyddo i ennill un o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu addysg o safon yn y Gymraeg a sicrhau bod gan ein myfyrwyr bob cyfle posib i astudio yn eu dewis iaith.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn amrediad eang o feysydd er mwyn cynyddu ac ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r Brifysgol yn cydweithio’n agos iawn gyda’r Coleg er mwyn datblygu addysg flaengar cyfrwng Cymraeg ac rydym yn parhau i gynllunio er mwyn sicrhau bod darpariaeth a chyfleoedd pellach ar gael i’n myfyrwyr yn y dyfodol.

“Roedd y seremoni yn achlysur arbennig iawn ac roedd hi’n wych i weld y holl fyfyrwyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ddod at ei gilydd i ddathlu ac i gymdeithasu.”

Ychwanegodd Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a oedd yn bresennol yn y seremoni: “Mae’n rhoi cryn foddhad i mi fel Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld cymaint y datblygiad sydd wedi digwydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Hynny, ar draws ystod o ddisgyblaethau; o berfformio a’r celfyddydau cain, i fusnes ac addysg gorfforol. Mae heddiw yn uchafbwynt i’r datblygiadau hyn – rhannu’r nifer fwyaf erioed o Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ymysg myfyrwyr Cangen y Drindod Dewi Sant.”

Author