Home » Dychweliad i Huw fel Cyfarwyddwr newydd yr Ardd
Cymraeg News

Dychweliad i Huw fel Cyfarwyddwr newydd yr Ardd

Screen Shot 2016-05-23 at 12.27.54MAE CYFARWYDDWR newydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn mynd yn ôl i’w wreiddiau.

Roedd Huw Francis, a ganwyd yn Abertawe, yn byw yn Sir Gaerfyrddin am bum mlynedd dra ei fod yn gweithio fel Cynghorwr Masnach Ryngwladol i Adran Busnes Rhyngwladol Cymru, Llywodraeth Cymru. Dros y naw mlynedd diwethaf mae wedi bod yn Brif Weithredwr o dirfeddianwyr cymunedol mwyaf Yr Alban, Stòras Uibhist, wedi ei leoli yn yr Ynysoedd Heledd Allanol.

Wedi addysgu yn Ysgol Gyfun Olchfa a Phrifysgol Cranfield, mae Huw yn beiriannydd graddedig efo cymwysterau busnes a chynghorol, a phrofiad proffesiynol yn gweithio yn swyddi gweithredol, datblygedig ac ymgynghorol. Yn rheolwr strategaethol, mae gan Mr Francis sgiliau masnachol cryf, craffter cyllidol, a phrofiad o weithio efo sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Yn flaenorol, mae wedi gweithio yn Hong Kong, Twrci a Ffrainc, ac mae hefyd yn awdur cyhoeddedig o lyfrau ffuglen a ffeithiol.

Dywedodd: “Mae’n wych i fod yn dychwelyd i Gymru ac i weithio yn lle mor ardderchog. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn i’r her ac i weithio efo dîm talentog yr Ardd.”

Meddai Cadeirydd y Bwrdd o Ymddiriedolwyr yr Ardd, Rob Jolliffe: “Rydym wrth ein bodd bod Huw yn ein hymuno. Bydd yn wir ased wrth i ni edrych at gymryd yr Ardd ymlaen at ddyfodol newydd, disglair.”

Mae Mr Francis yn briod efo tri o blant. Dechreuir yn ei swydd newydd ar Fehefin 13eg.

Author