Home » Helpwch ein pryfed peillio
Cymraeg News

Helpwch ein pryfed peillio

Gan helpu peillio: Helpu blodau

Gan helpu peillio: Helpu blodau

GADEWCH I’CH porfa dyfu a helpwch fywyd gwyllt i ledaenu hadau ledled Sir Gaerfyrddin. Dyna apêl Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin sy’n annog pobl i neilltuo darn o dir ar gyfer blodau a phryfed peillio.

Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Isabel Macho: “Mae lawntiau a phorfeydd twt yn olygfa gyffredin ac yn dda ar gyfer ymlacio, chwarae gemau a chael picnics.

“Fodd bynnag, nid yw porfa sy’n cael ei thorri’n rheolaidd yn dda ar gyfer bywyd gwyllt am nad yw planhigion yn cael cyfle i flodeuo a bwrw hadau.”

Mae trychfilod megis gwenyn, gwyfynod a phryfed hofran yn helpu llawer o blanhigion i fwrw hadau drwy helpu i’w peillio.

Ar y cyd â pheillio cnydau bwydydd maen nhw’n helpu i gynnal yr amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion, cynefinoedd a bywyd gwyllt yng Nghymru.

Yn gyfnewid am yr help hwnnw maen nhw’n cael cyfran o’r neithdar mae’r blodyn yn ei gynhyrchu, ond mae nifer o’r pryfed peillio hyn bellach o dan fygythiad.

Colli cynefinoedd a cholli planhigion i fwydo oddi arnynt yw’r ddwy brif broblem sy’n wynebu peillwyr.

Nid oes yn rhaid i bobl golli eu lawntiau er mwyn helpu bywyd gwyllt. Bydd camau syml megis darparu lleiniau o borfa sydd ag uchderau gwahanol, newid y nifer o weithiau maen nhw’n torri porfa ac addasu uchder y peiriant torri porfa oll o gymorth.

Does dim rhaid iddo fod yn lawnt gyfan – mae neilltuo darnau bach yn unig yn ddefnyddiol. Bydd lleihau’r defnydd o wrteithwyr a chwynladdwyr yn helpu hefyd.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn gofyn i bobl neilltuo darn bach o lawnt neu borfa sy’n cael ei rheoli ganddyn nhw ger eu cartref neu fel rhan o dir ysgol, mynwentydd, adeiladau cyhoeddus, mannau chwarae neu o gwmpas eu busnes.

online casinos UK

Ychwanegodd Ms Macho: “Fel arbrawf, beth am neilltuo darn o lawnt un metr sgwâr a gadewch i’r borfa dyfu a blodeuo – mae’n gyfareddol gweld yr amrywiaeth o drychfilod fydd yn byw yn eich dôl fechan.

“Gwrandewch am geiliogod y rhedyn, edrychwch am wenyn a chyfrwch ieir bach yr haf. Mae llygaid y dydd, dant y llew a meillion yn aml yn ymddangos pan fydd porfa’n cael ei gadael i dyfu ac maen nhw i gyd yn bwysig ar gyfer peillio.

“Mae dant y llew yn dechrau blodeuo’n gynnar yn y flwyddyn, wrth i wenyn ymddangos, ac yna mae llygaid y dydd yn teyrnasu ac yn blodeuo hyd ddiwedd yr haf. Drwy adael i ddarnau bach o borfa dyfu gall pawb roi help llaw i beillwyr.”

Cadwch gofnod o faint o blanhigion a chreaduriaid sy’n ymsefydlu yno ac anfonwch y wybodaeth a ffotograffau gydag enw neu rif y tŷ a chôd post at [email protected] i fapio’r dolydd bychain.

Author