Home » Fferm Ffactor yn ôl ac yn fwy o hwyl fyth!
Cymraeg News

Fferm Ffactor yn ôl ac yn fwy o hwyl fyth!

Ifan Jones Evans: ‘Mae ‘na lot o gyffro ynglŷn â’r wobr arbennig yma ymysg y cystadleuwyr eleni’
Ifan Jones Evans: ‘Mae ‘na lot o gyffro ynglŷn â’r wobr arbennig yma ymysg y cystadleuwyr eleni’
Ifan Jones Evans: ‘Mae ‘na lot o gyffro ynglŷn â’r wobr arbennig yma ymysg y cystadleuwyr eleni’

MAE FFERMWYR Cymru yn enwog am joio lot o hwyl a thaclo sialensiau anodd – a bydd timau ohonyn nhw yn barod am y belio a llawer mwy yn y Fferm Ffactor newydd fydd yn difyrru gwylwyr bob nos Sadwrn ar S4C.

Mae tasgau doniol fel dal hwyaid ffug anferth gyda digger yn gymysg â sialensiau mwy traddodiadol ac o ddifri fel cneifio, adnabod bridiau ieir, creu cynllun marchnata ac ateb cwestiynau yn y gadair sialens yn y sioe y tro hwn.

Croeso i hwrlibwrli wythnosol Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr o nos Sadwrn 15 Hydref pan fydd chwe thîm yn anelu i greu argraff ar dîm caled ond teg o feirniaid ac ennill teitl Fferm Ffactor a gwobr amhrisiadwy, sef gwyliau unwaith mewn oes i Dde America.

Dros gyfnod o wyth wythnos, bydd gofyn i’r chwe thîm o dri ddangos bôn braich, gwybodaeth a dos go dda o sgil ym mhob agwedd o’r byd amaeth. Ac mae Tîm Bois y Seilej, Tîm Gauchos Gelliwen, Tîm Gelli Aur, i gyd o Sir Gaerfyrddin; Tîm Glynllifon, Gwynedd; Tîm Harper Cymru, myfyrwyr y coleg prifysgol enwog o Sir Amwythig a Thîm Moch Môn o’r ynys i gyd yn dweud eu bod yn barod am yr her.

Bydd digon o gyfle i wylwyr ddod i nabod y cystadleuwyr, gan na fydd yr un tîm yn ffarwelio â’r gystadleuaeth yn syth am eu bod yn cystadlu mewn grŵp ac yn y gystadleuaeth nes y rowndiau cynderfynol.

“Mae naws wahanol i’r gyfres eleni,” meddai Ifan Jones Evans, cyflwynydd y gyfres, “Mae mwy o adloniant yn perthyn i’r tasgau y tro hwn ac a hynny’n grêt ar gyfer slot poblogaidd ar nos Sadwrn.

“Mae’r fformat yn rhoi mwy o gyfle i bawb serennu, gan fod rhaid cwblhau amrywiaeth o dasgau cyn symud i’r cymal nesaf. Mae hyn wedi gweithio’n dda iawn, gan ei fod yn rhoi cyfle i bawb ddangos eu cryfderau,” ychwanega Ifan, mab fferm o Bont-rhyd-y-groes, ger Tregaron, sy’n DJ poblogaidd ar BBC Radio Cymru gyda’i sioe brynhawn Sadwrn.

Mae Ifan yn dweud bod y gystadleuaeth, sy’n gymysgedd difyr o deuluoedd, criwiau o ffrindiau a chriwiau o fyfyrwyr, wedi denu mwy o gystadleuwyr ifanc a menywod nag erioed o’r blaen.

Ac mae’n credu bod y wobr – sy’n gyfle euraidd i flasu’r byd ffermio mewn gwlad arall – wedi’i threfnu gan gwmni Teithiau Tango gydag yswiriant gan Undeb Amaethwyr Cymru – yn ffactor wrth ddenu cymaint o amrywiaeth o ffermwyr.

“Mae ‘na lot o gyffro ynglŷn â’r wobr arbennig yma ymysg y cystadleuwyr eleni,” meddai Ifan. “Rwy’n gwybod bod sawl un wedi cael eu denu i gystadlu oherwydd y profiad bythgofiadwy fyddai’r wobr yn ei gynnig, yn enwedig y to iau a merched. Mae’r syniad o fynd dramor i ddysgu a gweld sut mae eraill yn ffermio yn apelio.”

online casinos UK

Mae gwybodaeth am y timoedd a’r ffermwyr sy’n cymryd rhan ar gael isod.

Fferm Ffactor: Brwydr y Ffermwyr ar Nos Sadwrn 15 Hydref 7.30 Isdeitlau Saesneg.

Author