Home » ‘Ffit, Ffrwythlon a Phroffidiol’
Cymraeg News

‘Ffit, Ffrwythlon a Phroffidiol’

Hwrdd texel Iseldireg ar fferm: Jan Rodenburg, Rhyd-y-Ceir, Maesycrugiau
Hwrdd texel Iseldireg ar fferm: Jan Rodenburg, Rhyd-y-Ceir, Maesycrugiau
Hwrdd texel Iseldireg ar fferm: Jan Rodenburg, Rhyd-y-Ceir, Maesycrugiau

MAE YMGYRCH haf Hybu Cig Cymru (HCC) i wella ffrwythlondeb hyrddod a gwneud ffermydd yn fwy proffidiol yn parhau ar Ddydd Sadwrn (Awst 6) mewn digwyddiad arbennig ar fferm ym Maesycrugiau yn Nyffryn Teifi. 

Dengys ymchwil fod 20% o hyrddod yng Nghymru ddim mor ffrwythlon ag y dylent fod, sy’n medru bod yn gostus iawn i ffermwyr defaid.

Lansiwyd ymgyrch ‘Ffit, Ffrwythlon a Phroffidiol yn y Sioe Frenhinol eleni ac mae’n rhedeg drwy’r haf, gyda’r amcan o rannu arferion gorau ymhlith ffermwyr i gael y perfformiad gorau o’u hyrddod.

Cynhelir y digwyddiad diweddaraf yn Rhyd-y-Ceir, fferm Jan Rodenburg rhwng Llandysul a Llanybydder. Bu Jan yn cofnodi perfformiad hyrddod yn rheolaidd ers blynyddoedd. Mae’r digwyddiad, a gynhelir ar y cyd gyda chwmni bridio Signet, yn gyfle i ffermwyr rannu arferion da o ran rheoli hyrddod a diadelloedd.

Yn ôl Gwawr Parry, Swyddog Datblygu’r Diwydiant HCC; “Dyma gyfle gwych i ddarganfod mwy am fanteision cofnodi perfformiad diadelloedd a sut y gall gwelliannau genynnol helpu systemau yn y tymor hir. Mae HCC yn ffodus o gael y cyfle i gydweithio â Mr. Rodenburg.

“Gall gwella rheolaeth hyrddod – yn aml trwy fesurau bychain ac ymarferol – wneud gwahaniaeth go iawn i wella pa mor broffidiol yw fferm ddefaid.”

Author