Home » Tîm swyddogion newydd Ysgol Bro Pedr
Cymraeg News

Tîm swyddogion newydd Ysgol Bro Pedr

Nest ac Alwyn: Prif fachgen a’r brif ferch, Ysgol Bro Pedr
Nest ac Alwyn: Prif fachgen a’r brif ferch, Ysgol Bro Pedr
Nest ac Alwyn: Prif fachgen a’r brif ferch, Ysgol Bro Pedr

AR DDIWEDD tymor yr ysgol ddiwethaf, apwyntiwyd tîm newydd o Brif Swyddogion yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-2017. 

Wedi sawl cam yn y broses apwyntio rhwng llenwi ffurflen gais, etholiad ymysg disgyblion Blwyddyn 12 ac athrawon, cyflwyniad i’r Cyngor Ysgol a chyfweliad, penderfynwyd apwyntio Alwyn Evans fel y Prif Fachgen a Nest Jenkins fel y Brif Ferch am eleni, a’u dirprwyon:

Caryl Jacob, Ffion Jenkins, Rhys Davies, Meirion Thomas, Carie Collom a Morgan Lewis.

Bydd y tîm o Brif Swyddogion yn cydweithio’n ddiwyd drwy gydol y flwyddyn gan gynrychioli’r ysgol mewn amryw o ddigwyddiadau, ac yn cyfrannu at fywyd yn yr ysgol drwy gyflawni nifer o ddyletswyddau yn wythnosol, boed yn fewnol neu’n allanol.

Llongyfarchiadau gwresog i’r wyth ohonynt a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn brysur a phleserus!

Author