Home » Gan wneud Ceredigion gyfeillgar i dementia
Cymraeg News

Gan wneud Ceredigion gyfeillgar i dementia

Digwyddiad Cyfeilion Dementia: Yn Aberteifi
Digwyddiad Cyfeilion Dementia: Yn Aberteifi
Digwyddiad Cyfeilion Dementia: Yn Aberteifi

CAFODD digwyddiad ei gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Hydref i rannu profiadau gan gymunedau sy’n gyfeillgar dementia, er mwyn helpu y cyhoedd, sefydliadau a busnesau yng Ngheredigion i greu cymunedau mwy cyfeillgar tuag at dementia yn y sir.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn gan Cyngor Sir Ceredigion, Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Cymdeithas Alzheimer’s. Cefnogwyd y digwyddiad gan Cynllun LEADER Cynnal y Cardi trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 -2020, sydd yn gael ei ariannu gan y Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Anelwyd y diwrnod at bobl â diddordeb i helpu gwneud eu cymuned neu gweithle yn lle cefnogol i bobl sydd yn byw gyda dementia a’u gofalwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Sicrwydd a Thai: “Rwy’n falch iawn bod y digwyddiad yma wedi cael ei gynnal yng Ngheredigion. Mae bod yn gymuned sydd yn gyfeillgar tuag at dementia yn cael effaith bositif iawn ar fywydau’r rheiny sydd yn byw gyda’r salwch, yn enwedig eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Ychwanegodd: “Gyda achosion dementia yn codi yng Nghymru, gallwn ni gyd cael ein effeithio mewn rhyw ffordd, fel aelod teulu, ffrind neu ni ein hunain, felly mae cynyddu cymunedau mwy cyfeillgar tuag at dementia yng Ngheredigion o gysur mawr i nifer o’n trigolion.”

Os oes gennych ddiddordeb i wneud eich cymuned yn fwy gyfeillgar tuag at dementia, cysylltwch â Naomi McDonagh o Gyngor Sir Ceredigion ar 01545 572105.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Cynnal y Cardi, ewch i www.cynnalycardi.org.uk.

Author