Home » Lock-In cyntaf y dref yn ‘Llwyddiant Ysgubol’
Cymraeg News

Lock-In cyntaf y dref yn ‘Llwyddiant Ysgubol’

Llanelli Herald Issue 105

screen-shot-2016-10-18-at-10-21-17COFRESTRODD bron i fil o fyfyrwyr ar gyfer y Lock-In cyntaf erioed i fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin, sef digwyddiad siopa cenedlaethol unigryw sy’n cynnig gostyngiadau enfawr i fyfyrwyr mewn siopau.

Trefnwyd y Lock-In gan dîm datblygu economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Undeb y Myfyrwyr.

Cymerodd dros 50 o fusnesau ar draws canol tref Caerfyrddin ran yn y digwyddiad gan gynnwys siopau cadwyn cenedlaethol, siopau, bwytai a chaffis lleol.

Ar un adeg yn ystod y di gwyddiad nos Fawrth, roedd ciw o fyfyrwyr yng nghanol y dref yn aros i gasglu eu bandiau garddwrn ar gyfer y Lock-In er mwyn cael eu gostyngiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Roedd ein Lock-In cyntaf i fyfyrwyr yn llwyddiannus dros ben. Cymerodd oddeutu 960 o fyfyrwyr ran yn ogystal â 50 o fusnesau.

“Ein rôl yn y digwyddiad oedd helpu i roi hwb i’r diwydiant siopa yn lleol a chyflwyno cwsmeriaid newydd i’r masnachwyr yma yng Nghaerfyrddin. Bellach byddwn ni’n mynd ati i gael adborth gan fasnachwyr i weld a yw hi’n werth cymryd rhan yn y digwyddiad cenedlaethol hwn eto y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd John Nash, Rheolwr Rhodfa’r Santes Catrin: “Bu’r Lock- In cyntaf erioed i fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn wych gweld cynifer o fasnachwyr ledled y dref yn cyfrannu at noson o siopa hwyliog ar gyfer myfyrwyr presennol a myfyrwyr newydd yn y Brifysgol yn ogystal â disgyblion chweched dosbarth o ysgolion lleol. Gwnaeth bron i 1,000 o fyfyrwyr ymdrech i gefnogi ein tref ac rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrech yn fawr. Yn ôl y siopau a gymerodd ran yn y digwyddiad, cafwyd gwerthiant mawr ac roedd un manwerthwr yn difaru am nad oedd ganddyn nhw dri thil arall i leihau’r ciwiau mawr.

Author