FEL RHAN o’i ymrwymiad parhaus i wella darpariaeth gwasanaeth i gwsmeriaid y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru (CBHC) wedi cyhoeddi fod Medwyn Parry, ei arbenigwr ffotograffig o’r awyr, fydd ar gael yn yr Ystafell Chwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar fore Gwener 9.30-13.00.
Ceir yn archif y Comisiwn Brenhinol y casgliad mwyaf o awyrluniau yng Nghymru, yn dyddio o 1918 hyd heddiw. Maen nhw’n cynnwys delweddau fertigol a dynnwyd ar gryn uchder a delweddau arosgo lefel-isel, ac maen nhw’n dangos yn glir i ni sut mae’r dirwedd wledig a threfol wedi newid dros amser.
DYMA RAI O’R CASGLIADAU:
- Awyrluniau Arosgo Lefel-isel Aerofilms: 1919-2006
- Awyrluniau Fertigol yr Awyrlu Brenhinol – tynnwyd ar wahanol uchderau: 1940- 1965
- Awyrluniau Arosgo Lefel-isel yr Awyrlu Brenhinol: 1940- 1965
- Casgliad y Llu Awyr Brenhinol, Medmenham – fertigol ac arosgo: c.1939- 1945
- Casgliad Awyrluniau Prifysgol Caergrawnt – delweddau lefel-isel sy’n cofnodi, yn anhygoel o fanwl, nodweddion archaeolegol yn y dirwedd: diwedd y 1950au hyd ddechrau’r 1960au
- Awyrluniau Fertigol yr Arolwg Ordnans: 1962-2009
- Awyrluniau Arosgo Lefel-isel CBHC – tynnwyd gan ein ffotograffydd ni: 1986 – heddiw
- Os hoffech geisio cyngor ar ddefnyddio awyrluniau – ar gyfer ymchwil personol neu gyhoeddiad academaidd, neu at ddibenion busnes/ masnachol – mae croeso i chi alw heibio a chael gair â Medwyn ar fore Gwener.
Add Comment