Home » Golygydd Papur Bro Clonc yn ennill cadair CFfI
Cymraeg News

Golygydd Papur Bro Clonc yn ennill cadair CFfI

Siwan Davies: Enillodd y gadair
Siwan Davies: Enillodd y gadair
Siwan Davies: Enillodd y gadair

YN EISTEDDFOD CFfI Sir Gâr nos Sadwrn (22 Hydref), Siwan Davies o Glwb Dyffryn Cothi enillodd y gadair.

Mae Siwan yn byw yn Llanbed, yn gyn ddisgybl yn Ysgol Llanbed ac yn gyn aelod o Glwb Llanwenog.

Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, y Prifardd Aneirin Karadog, am ei cherdd yn y wers rydd ar y testun ‘Gwawr’.

Ysgrifennodd Siwan am y bardd o Dalacharn, Dylan Thomas, a gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan ddarlleniad Aneirin Karadog o’r gerdd fuddugol.

Mae Siwan yn aelod o fwrdd golygyddol Papur Bro Clonc ac yn gweithio i Gyngor Sir Ceredigion. Dymuniadau gorau iddi nawr wrth gystadlu yn Eisteddfod Cymru fis nesaf.

Aelodau Clwb Dyffryn Cothi a ddaeth yn ail ac yn drydydd yn y gystadleuaeth farddoniaeth hefyd, sef Ceri Davies a Carwen Richards. Daeth Sioned Howells Clwb Llanllwni yn ail yn y gystadleuaeth ryddiaith.

Author