Home » Angharad Mair yn edrych ymlaen at her Marathon Eryri
Cymraeg News

Angharad Mair yn edrych ymlaen at her Marathon Eryri

screen-shot-2016-11-17-at-15-12-46WEDI i redwr arall dorri ei record marathon Prydeinig yn ddiweddar, mae cyflwynwraig Heno a’r rhedwraig ddawnus Angharad Mair yn benderfynol o adennill ei choron yn fuan – ond nid penwythnos nesaf pan fydd hi’n rhedeg ym Marathon Eryri.

Ym mis Mawrth, fe dorrodd Angharad, 55, o Fro Morgannwg, record marathon i fenywod dros 55 ym Marathon Llundain, a hynny o chwe munud, gydag amser o 2.57.46.

Bydd y cyflwynydd, a gynrychiolodd Brydain ym Mhencampwriaethau Marathon y Byd yn Athens yn 1997, yn rhoi ei hesgidiau rhedeg ymlaen unwaith eto penwythnos nesaf, wrth iddi fentro i redeg Marathon Eryri am yr eildro.

Daeth Angharad, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, yn drydedd yn ras y merched ddwy flynedd y ôl, a chewch weld sut hwyl gaiff hi eleni wrth i S4C ddangos uchafbwyntiau o’r ras am 7.30, nos Sul, 30 Hydref.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno’r rhaglen, gyda Nic Parry a Matt Ward yn sylwebu.

“Dw i heb edrych i weld pwy arall sy’n rhedeg eto, ond fyddwn i’n gobeithio cael amser da,” meddai Angharad. “Galli di ddim torri’r record yn y ras hon. I dorri record mae’n rhaid i ti ddewis un fflat lle ti’n gallu rhedeg mor glou a gallet ti. Ond blwyddyn nesaf, fydda i’n ceisio ennill y record yn ôl, yn Llundain siŵr o fod.”

“Gyda ras anodd fel Marathon Eryri, does gennyt ti ddim syniad sut mae’r ras am fynd. Ti’n sefyll ar y llinell gychwyn ac yn meddwl ‘reit, gyda bach o lwc, gyrhaedda i’r diwedd mewn un pishyn’. Oherwydd y categorïau oedran gwahanol, fe gei di rasus eraill o fewn y ras, ac mae’n gystadleuol iawn, felly fydd pawb yn cadw llygad barcud ar ei gilydd.“

Mae’r ras marathon, sydd yn ei 34ain flwyddyn, yn cael ei hystyried fel un o’r anoddaf yn y calendr rasio, ac mae Angharad yn meddwl fod maint yr her yn magu cyfeillgarwch rhwng y rhedwyr.

“Beth sy’n ddiddorol am Farathon Eryri yw bod nifer fawr o’r rhai sy’n rhedeg yn dod yn ôl bob blwyddyn, ac ar ôl rhedeg e, fi’n gallu deall pam. Mae’n ras mor wych ac mae’n sialens o fath wahanol. Mae ‘na rywbeth arbennig am yr awyrgylch ar ddechrau’r ras yn Llanberis, a rhywbeth arbennig hefyd am y dirwedd anhygoel a’r mynyddoedd.

“Mae’n farathon sy’n dangos Cymru ar ei gorau. Mae nifer fawr o bobl yn dod draw o Loegr a sawl gwlad arall o Ewrop, ac mae’n wirioneddol yn gwneud i mi deimlo’n falch o Gymru, oherwydd yr holl awyrgylch a’r prydferthwch, a’r profiad gwych mae pawb yn cael.”

online casinos UK

Author